Ystad Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ystad Cwellyn''' yn ystad fach oedd yn perthyn i deulu Cwellyn. Roedd ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Erbyn canol y 19g., a...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:56, 1 Ebrill 2021
Roedd Ystad Cwellyn yn ystad fach oedd yn perthyn i deulu Cwellyn. Roedd ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Erbyn canol y 19g., adeg y map degwm, yr oedd yr ystad yn perthyn i Philip Williams. Yn ogystal â thir Chwellyn ei hun (a sillafwyd yn "Cawellyn")ac a oedd yn ymestyn dros 174 o erwau, yr oedd dwy fferm arall gyfagos ar yr ystad, sef Planwydd (216 o erwau) a Chwm Bychan (41 o erwau). Yr oedd yr ystad hefyd yn berchen ar dyddyn Dolellog, nid nepell o bentref presennol Dinas. Roedd yr holl eiddo o fewn ffiniau plwyf Llanwnda.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ LLGC, Map degwm Llanwnda