Teulu Huddart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.<...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.<ref>Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611</ref> Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.<ref>Gwefan Festipedia, [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Captain_Joseph_Huddart], cyrchwyd 26.11.2018</ref>   
Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mhlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.<ref>Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611</ref> Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.<ref>Gwefan Festipedia, [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Captain_Joseph_Huddart], cyrchwyd 26.11.2018</ref>   


Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd [[Ystad Glynllifon]] ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/6773</ref>, a phrynodd [[Chwarel Dorothea]] dir cynefin defaid yng [[Cwm Silyn|Nghwm Silyn]].<ref>Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.</ref> Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol [[Pen-y-groes]], a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.<ref>Archifdy Caernarfon, XD40/26/11</ref> Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.<ref>Jim Hewett, ''The Huddart Family'', FR Heritage Journal rhif 93 (2008). </ref>
Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd [[Ystad Glynllifon]] ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/6773</ref>, a phrynodd [[Chwarel Dorothea]] dir cynefin defaid yng [[Cwm Silyn|Nghwm Silyn]].<ref>Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.</ref> Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol [[Pen-y-groes]], a galluogodd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.<ref>Archifdy Caernarfon, XD40/26/11</ref> Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.<ref>Jim Hewett, ''The Huddart Family'', FR Heritage Journal rhif 93 (2008). </ref>


Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.
Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.
Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle. Nid yw'n rhyfedd fod cymaint o straeon am ysbrydion a bwganod yn gysylltiedig â'r fan. Yn ei gyfrol hunangofiannol hynod ddifyr, ''Pigau'r Sêr'' mae'r diweddar J.G. Williams (Jac Williams) yn sôn fel yr aeth ef a Wil, ei frawd, i fusnesa o gwmpas y plas pan oeddent yn llanciau ifanc. Wedi llwyddo i fynd i mewn drwy ffenest rydd aethant i fyny'r grisiau yn y gwyll. Fodd bynnag, yn un o'r llofftydd torrodd sŵn mwyaf enbyd o'u cwmpas, fel rhywun yn tynnu ffon ar hyd ffyn y grisiau ac fe wnaethant ffoi oddi yno am eu bywydau.<ref> J.G. Williams, ''Pigau'r Sêr'', (Gwasg Gee, di-ddyddiad [1970]), tt.196-9.</ref> Mewn sgwrs a gefais gyda Jac Williams rai blynyddoedd yn ôl dywedodd wrthyf iddo fentro yno drachefn gyda ffrind iddo pan oeddent yn hŷn. Pan oeddent tu allan i'r plas fe wnaethant godi eu golygon at ffenestri'r llofftydd a gweld dyn mewn dillad tywyll yn edrych yn hynod fygythiol arnynt. Nid oedd llawr i'r llofft erbyn hynny meddai Jac Williams wrthyf ac fe lewygodd ei gyfaill yn y fan a'r lle!
Yn 2012 bu gwaith cloddio archaeolegol ger safle Plas Bryncir gan fyfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Manceinion a daethpwyd o hyd i weddillion parc ceirw o'r oesoedd canol yno. Gwnaed gwaith manylach yn ddiweddarach gan wyth o fyfyrwyr archaeoleg o Brifysgol Caerdydd a daeth olion sylweddol i'r amlwg, a chafwyd dyddiau agored i'r cyhoedd yno yn 2015 i egluro natur y safle a'i bwysigrwydd hanesyddol. Credir i'r parc ceirw gael ei lunio yn nhraean cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg yn ystod teyrnasiad Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Roedd castell Cricieth gerllaw ym meddiant Llywelyn bryd hynny a byddai'n treulio cyfnodau yno ar ei deithiau o amgylch ei deyrnas. Roedd tiroedd gwyllt Cwm Pennant a Chwm Ystradllyn gerllaw yn fannau delfrydol i hela i'r tywysog ac uchelwyr lleol. <ref> Gweler adroddiad yn y ''Daily Post'', 15 Rhagfyr 2014 </ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:49, 31 Mawrth 2021

Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mhlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[1] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[2]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[3], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[4] Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a galluogodd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[5] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.[6]

Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.

Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle. Nid yw'n rhyfedd fod cymaint o straeon am ysbrydion a bwganod yn gysylltiedig â'r fan. Yn ei gyfrol hunangofiannol hynod ddifyr, Pigau'r Sêr mae'r diweddar J.G. Williams (Jac Williams) yn sôn fel yr aeth ef a Wil, ei frawd, i fusnesa o gwmpas y plas pan oeddent yn llanciau ifanc. Wedi llwyddo i fynd i mewn drwy ffenest rydd aethant i fyny'r grisiau yn y gwyll. Fodd bynnag, yn un o'r llofftydd torrodd sŵn mwyaf enbyd o'u cwmpas, fel rhywun yn tynnu ffon ar hyd ffyn y grisiau ac fe wnaethant ffoi oddi yno am eu bywydau.[7] Mewn sgwrs a gefais gyda Jac Williams rai blynyddoedd yn ôl dywedodd wrthyf iddo fentro yno drachefn gyda ffrind iddo pan oeddent yn hŷn. Pan oeddent tu allan i'r plas fe wnaethant godi eu golygon at ffenestri'r llofftydd a gweld dyn mewn dillad tywyll yn edrych yn hynod fygythiol arnynt. Nid oedd llawr i'r llofft erbyn hynny meddai Jac Williams wrthyf ac fe lewygodd ei gyfaill yn y fan a'r lle!

Yn 2012 bu gwaith cloddio archaeolegol ger safle Plas Bryncir gan fyfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Manceinion a daethpwyd o hyd i weddillion parc ceirw o'r oesoedd canol yno. Gwnaed gwaith manylach yn ddiweddarach gan wyth o fyfyrwyr archaeoleg o Brifysgol Caerdydd a daeth olion sylweddol i'r amlwg, a chafwyd dyddiau agored i'r cyhoedd yno yn 2015 i egluro natur y safle a'i bwysigrwydd hanesyddol. Credir i'r parc ceirw gael ei lunio yn nhraean cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg yn ystod teyrnasiad Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Roedd castell Cricieth gerllaw ym meddiant Llywelyn bryd hynny a byddai'n treulio cyfnodau yno ar ei deithiau o amgylch ei deyrnas. Roedd tiroedd gwyllt Cwm Pennant a Chwm Ystradllyn gerllaw yn fannau delfrydol i hela i'r tywysog ac uchelwyr lleol. [8]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611
  2. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 26.11.2018
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  4. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  5. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11
  6. Jim Hewett, The Huddart Family, FR Heritage Journal rhif 93 (2008).
  7. J.G. Williams, Pigau'r Sêr, (Gwasg Gee, di-ddyddiad [1970]), tt.196-9.
  8. Gweler adroddiad yn y Daily Post, 15 Rhagfyr 2014