Moel Penllechog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Moel Penllechog (a elwir hefyd yn Mynydd Tan-y-graig) yw'r mwyaf deheuol, a'r isaf, o dri chopa - y ddau arall yw'r Gurn Ddu a Gurn Goch. Mae Moel Penllechog yn 316 metr o uchder ac fel Gurn Ddu a Gurn Goch mae ochr orllewinol y mynydd, sy'n wynebu Bae Caernarfon, yn llawer mwy garw a serth na'i lechweddau dwyreiniol, sy'n wynebu Eifionydd. Yn wahanol i wyneb gorllewinol Gurn Ddu - lle'r agorwyd dwy chwarel ithfaen, sef Gwaith Tan-y-graig a Gwaith Tyddyn Hywel - ni fu unrhyw gloddio am gerrig ar Foel Penllechog. Saif fferm Penllechog ar lethrau de-orllewin y Foel, ar gyrion Llanaelhaearn, ac mae ei thir yn mynd i lawr o'r ffriddoedd uchel hyd at briffordd Pwllheli-Caernarfon. Rhwng fferm Penllechog a fferm Maes-y-cwm gerllaw iddi ceir olion hen leiniau amaethyddol o'r oesoedd canol - maent wedi eu nodi ar fap yr Arolwg Ordnans.<sup>[1]</sup> Hefyd mae enw diddorol ar un o gaeau Penllechog, sef Ynys Llywelyn - tybed beth yw cefndir yr enw hwn? Efallai y gall rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd fwrw goleuni arno.
'''Moel Penllechog''' (a elwir hefyd yn Mynydd Tan-y-graig) yw'r mwyaf deheuol, a'r isaf, o dri chopa - y ddau arall yw'r [[Gurn Ddu]] a [[Gurn Goch]]. Mae Moel Penllechog yn 316 metr o uchder ac fel Gurn Ddu a Gurn Goch mae ochr orllewinol y mynydd, sy'n wynebu [[Bae Caernarfon]], yn llawer mwy garw a serth na'i lechweddau dwyreiniol, sy'n wynebu Eifionydd. Yn wahanol i wyneb gorllewinol Gurn Ddu - lle'r agorwyd dwy chwarel ithfaen, sef [[Chwarel Tan-y-graig|Gwaith Tan-y-graig]] a [[Chwarel Tyddyn Hywel|Gwaith Tyddyn Hywel]] - ni fu unrhyw gloddio am gerrig ar Foel Penllechog. Saif fferm Penllechog ar lethrau de-orllewin y Foel, ar gyrion [[Llanaelhaearn]], ac mae ei thir yn mynd i lawr o'r ffriddoedd uchel hyd at briffordd Pwllheli-Caernarfon. Rhwng fferm Penllechog a fferm Maes-y-cwm gerllaw iddi ceir olion hen leiniau amaethyddol o'r oesoedd canol - maent wedi eu nodi ar fap yr Arolwg Ordnans.<ref>Gweler map Explorer rhif 254 yr Arolwg Ordnans.</ref> Hefyd mae enw diddorol ar un o gaeau Penllechog, sef Ynys Llywelyn - tybed beth yw cefndir yr enw hwn? Efallai y gall rhai o ddarllenwyr '''Cof y Cwmwd''' fwrw goleuni arno.


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Gweler map Explorer rhif 254 yr Arolwg Ordnans.
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Mynyddoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:11, 22 Mawrth 2021

Moel Penllechog (a elwir hefyd yn Mynydd Tan-y-graig) yw'r mwyaf deheuol, a'r isaf, o dri chopa - y ddau arall yw'r Gurn Ddu a Gurn Goch. Mae Moel Penllechog yn 316 metr o uchder ac fel Gurn Ddu a Gurn Goch mae ochr orllewinol y mynydd, sy'n wynebu Bae Caernarfon, yn llawer mwy garw a serth na'i lechweddau dwyreiniol, sy'n wynebu Eifionydd. Yn wahanol i wyneb gorllewinol Gurn Ddu - lle'r agorwyd dwy chwarel ithfaen, sef Gwaith Tan-y-graig a Gwaith Tyddyn Hywel - ni fu unrhyw gloddio am gerrig ar Foel Penllechog. Saif fferm Penllechog ar lethrau de-orllewin y Foel, ar gyrion Llanaelhaearn, ac mae ei thir yn mynd i lawr o'r ffriddoedd uchel hyd at briffordd Pwllheli-Caernarfon. Rhwng fferm Penllechog a fferm Maes-y-cwm gerllaw iddi ceir olion hen leiniau amaethyddol o'r oesoedd canol - maent wedi eu nodi ar fap yr Arolwg Ordnans.[1] Hefyd mae enw diddorol ar un o gaeau Penllechog, sef Ynys Llywelyn - tybed beth yw cefndir yr enw hwn? Efallai y gall rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd fwrw goleuni arno.

Cyfeiriadau

  1. Gweler map Explorer rhif 254 yr Arolwg Ordnans.