Pen Lôn Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pen Lôn Trefor yw'r fan lle troir i lawr i bentref Trefor oddi ar briffordd Pwllheli-Caernarfon. Fodd bynnag, mae dau Ben Lôn Trefor mewn gwirionedd, ga...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Pen Lôn Trefor yw'r fan lle troir i lawr i bentref Trefor oddi ar briffordd Pwllheli-Caernarfon. Fodd bynnag, mae dau Ben Lôn Trefor mewn gwirionedd, gan fod dwy ffordd yn mynd i'r pentref o'r briffordd. Y Pen Lôn gwreiddiol yw'r un agosaf i Bwllheli, ac wrth y gyffordd yn y fan honno mae ffermdy Pen Lôn. Gelwir y ffordd hon o hyd yn Hen Lôn gan drigolion yr ardal ac mae'n ymnyddu'n droellog i lawr i'r pentref heibio i Ysgubor Wen ac Elernion gan ddod i mewn i'r pentref i lawr allt serth heibio i'r eglwys (sydd bellach wedi cau). Ger y Pen Lôn hwn bu gefail gof ar un adeg (gweler yr erthygl ar Gofaint Aberdesach yn Cof y Cwmwd) ac roedd siop gerllaw Pen Lôn hefyd. Bu i honno gau oddeutu'r 1930au. Yr ail Ben Lôn yw'r un agosaf at Gaernarfon, lle mae'r ffordd arall yn troi i lawr am Drefor. Gelwir y ffordd honno o hyd yn Lôn Newydd er iddi gael ei hagor yn y 1930au. Yn wahanol i'r Hen Lôn mae hon yn syth fel saeth, a gelwir y Pen Lôn hwn yn Ben Lôn Newydd.
'''Pen Lôn Trefor''' yw'r fan lle troir i lawr i bentref [[Trefor]] oddi ar briffordd Pwllheli-Caernarfon. Fodd bynnag, mae dau Ben Lôn Trefor mewn gwirionedd, gan fod dwy ffordd yn mynd i'r pentref o'r briffordd. Y Pen Lôn gwreiddiol yw'r un agosaf i Bwllheli, ac wrth y gyffordd yn y fan honno mae ffermdy Pen Lôn. Gelwir y ffordd hon o hyd yn Hen Lôn gan drigolion yr ardal ac mae'n ymnyddu'n droellog i lawr i'r pentref heibio i Ysgubor Wen ac [[Elernion]] gan ddod i mewn i'r pentref i lawr allt serth heibio i'r [[Eglwys Sant Siôr, Trefor|eglwys]] (sydd bellach wedi cau). Ger y Pen Lôn hwn bu gefail gof ar un adeg (gweler yr erthygl ar [[Gofaint Aberdesach]] yn '''Cof y Cwmwd''') ac roedd siop gerllaw Pen Lôn hefyd. Bu i honno gau oddeutu'r 1930au. Yr ail Ben Lôn yw'r un agosaf at Gaernarfon, lle mae'r ffordd arall yn troi i lawr am Drefor. Gelwir y ffordd honno o hyd yn Lôn Newydd er iddi gael ei hagor yn y 1930au. Yn wahanol i'r Hen Lôn mae hon yn syth fel saeth, a gelwir y Pen Lôn hwn yn Ben Lôn Newydd.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:19, 22 Mawrth 2021

Cyfeiriadau