Iwan Wyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Iwan Wyn Parry yn canu gyda'i gôr.jpg|bawd|de|400px|Iwan Wyn Parry yn canu gyda Chôr Bro Meirion]] | |||
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y ''Meseia''. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran. Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd. | Ganed '''Iwan Wyn Parry''' yn Llanymddyfri ym 1965, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, [[Arthur Wyn Parry]]. Cafodd ei fagu yn [[Y Groeslon]]. Ar ôl mynychu [[Ysgol y Groeslon]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y ''Meseia''. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran.<ref>Gwefan BBC Cymru'r Byd, [http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2007/cefndir/iwan-wyn-parry.shtml], cyrchwyd 21.3.2021 </ref> Enillodd gystadleuaeth Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1996.<ref>Gwefan Cymdeithas Gorawl Llanelwy, [http://stasaphchoralsociety.co.uk/choir/soloists/iwan_parry.php], cyrchwyd 21.3.2021</ref> Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd, sef Côr Bro Meirion. | |||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Milfeddygon]] | |||
[[Categori:Cantorion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:22, 21 Mawrth 2021
Ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri ym 1965, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ôl mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.[1]
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran.[2] Enillodd gystadleuaeth Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1996.[3] Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd, sef Côr Bro Meirion.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma