Iwan Wyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fe ganed '''Iwan Wyn Parry''' yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar o...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:49, 21 Mawrth 2021

Fe ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ol mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, fe gafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.

Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, um o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi cafodd ail yrfa fel unawdydd bas ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran. Mae o hefyd yn areinydd cor ym Meirionnydd.