Coed Elernion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Coed Elernion yn goedwig sylweddol o goed collddail brodorol ar gyrion pentref Trefor. Erbyn hyn mae yng ngofal Coed Cadw ac mae'r goedwig, sydd bron...' |
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae Coed Elernion yn goedwig sylweddol o goed collddail brodorol ar gyrion pentref Trefor. Erbyn hyn mae yng ngofal Coed Cadw ac mae'r goedwig, sydd bron i 53 erw (21.40ha) o ran maint, yn un o'r coedlannau mwyaf o'i bath sydd ar ôl yn y gymdogaeth. Mae'n ymestyn o fferm Elernion bron hyd at Dyddyn Drain gan orchuddio'r llechweddau sydd o boptu Afon Tâl. Ceir ynddi amrywiaeth o goed collddail megis derw, ynn, masarn, cyll a helyg ac ar lawr y goedwig ac ar foncyffion y coed ceir nifer o rywogaethau o fwsogl, cen a madarch/ffyngau yn eu tymor. Mae'r coed yn arbennig o drawiadol yn y gwanwyn gyda chlychau'r gog ac amrywiaeth o flodau gwyllt eraill yn carpedu'r llawr ac yn yr haf pan welir llawer o bryfetach, gwyfynnod a gwenyn yn hel paill yno. Fel y gellid disgwyl, mae Coed Elernion yn gynefin i nifer helaeth o rywogaethau o adar a mamaliaid. Yn wir, cofnodwyd 27 rhywogaeth o famaliaid a 152 rhywogaeth o adar yng Nghoed Elernion neu o fewn cylch o bum milltir i'r safle.< | Mae '''Coed Elernion''' yn goedwig sylweddol o goed collddail brodorol ar gyrion pentref [[Trefor]]. Erbyn hyn mae yng ngofal Coed Cadw ac mae'r goedwig, sydd bron i 53 erw (21.40ha) o ran maint, yn un o'r coedlannau mwyaf o'i bath sydd ar ôl yn y gymdogaeth. Mae'n ymestyn o fferm [[Elernion]] bron hyd at Dyddyn Drain gan orchuddio'r llechweddau sydd o boptu [[Afon Tâl]]. Ceir ynddi amrywiaeth o goed collddail megis derw, ynn, masarn, cyll a helyg ac ar lawr y goedwig ac ar foncyffion y coed ceir nifer o rywogaethau o fwsogl, cen a madarch/ffyngau yn eu tymor. Mae'r coed yn arbennig o drawiadol yn y gwanwyn gyda chlychau'r gog ac amrywiaeth o flodau gwyllt eraill yn carpedu'r llawr ac yn yr haf pan welir llawer o bryfetach, gwyfynnod a gwenyn yn hel paill yno. Fel y gellid disgwyl, mae Coed Elernion yn gynefin i nifer helaeth o rywogaethau o adar a mamaliaid. Yn wir, cofnodwyd 27 rhywogaeth o famaliaid a 152 rhywogaeth o adar yng Nghoed Elernion neu o fewn cylch o bum milltir i'r safle.<ref>Gweler gwefan Coed Cadw a gwefan Landscape Britain - ceir yno restr lawn o rywogaethau adar a mamaliaid yng Ngoed Elernion a'r cyffiniau - nid yw'r rhestr ar gael yn Gymraeg gwaetha'r modd.</ref> Ymysg yr adar mwyaf cyffredin a welir yno ceir y gigfran a'r frân dyddyn, robin, ji-binc, titw tomos las a'r titw mawr, y bioden, sgrech y coed, coch y berllan, telor y coed, ysguthan, durtur dorchog, trochydd a'r creyr glas. Ac ymysg y mamaliaid ceir y gwningen, llwynog, bronwen, carlwm, mochyn daear, ffwlbart, llygoden ddŵr, pathew a'r wiwer lwyd (dim wiwerod coch hyd yma gwaetha'r modd). | ||
Ceir mynedfa i Goed Elernion oddi ar y ffordd sy'n mynd o briffordd Pwllheli-Caernarfon i lawr i Drefor. Wrth y fynedfa ceir bwrdd gwybodaeth ac mae llwybrau dymunol yn mynd drwy'r coed at lan yr afon. Mae'n lle tawel a hyfryd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ac yn arbennig felly yn y gwanwyn a'r haf. | Ceir mynedfa i Goed Elernion oddi ar y ffordd sy'n mynd o briffordd Pwllheli-Caernarfon i lawr i Drefor. Wrth y fynedfa ceir bwrdd gwybodaeth ac mae llwybrau dymunol yn mynd drwy'r coed at lan yr afon. Mae'n lle tawel a hyfryd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ac yn arbennig felly yn y gwanwyn a'r haf. | ||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | |||
[[Categori:Coedwigoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:00, 19 Mawrth 2021
Mae Coed Elernion yn goedwig sylweddol o goed collddail brodorol ar gyrion pentref Trefor. Erbyn hyn mae yng ngofal Coed Cadw ac mae'r goedwig, sydd bron i 53 erw (21.40ha) o ran maint, yn un o'r coedlannau mwyaf o'i bath sydd ar ôl yn y gymdogaeth. Mae'n ymestyn o fferm Elernion bron hyd at Dyddyn Drain gan orchuddio'r llechweddau sydd o boptu Afon Tâl. Ceir ynddi amrywiaeth o goed collddail megis derw, ynn, masarn, cyll a helyg ac ar lawr y goedwig ac ar foncyffion y coed ceir nifer o rywogaethau o fwsogl, cen a madarch/ffyngau yn eu tymor. Mae'r coed yn arbennig o drawiadol yn y gwanwyn gyda chlychau'r gog ac amrywiaeth o flodau gwyllt eraill yn carpedu'r llawr ac yn yr haf pan welir llawer o bryfetach, gwyfynnod a gwenyn yn hel paill yno. Fel y gellid disgwyl, mae Coed Elernion yn gynefin i nifer helaeth o rywogaethau o adar a mamaliaid. Yn wir, cofnodwyd 27 rhywogaeth o famaliaid a 152 rhywogaeth o adar yng Nghoed Elernion neu o fewn cylch o bum milltir i'r safle.[1] Ymysg yr adar mwyaf cyffredin a welir yno ceir y gigfran a'r frân dyddyn, robin, ji-binc, titw tomos las a'r titw mawr, y bioden, sgrech y coed, coch y berllan, telor y coed, ysguthan, durtur dorchog, trochydd a'r creyr glas. Ac ymysg y mamaliaid ceir y gwningen, llwynog, bronwen, carlwm, mochyn daear, ffwlbart, llygoden ddŵr, pathew a'r wiwer lwyd (dim wiwerod coch hyd yma gwaetha'r modd).
Ceir mynedfa i Goed Elernion oddi ar y ffordd sy'n mynd o briffordd Pwllheli-Caernarfon i lawr i Drefor. Wrth y fynedfa ceir bwrdd gwybodaeth ac mae llwybrau dymunol yn mynd drwy'r coed at lan yr afon. Mae'n lle tawel a hyfryd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ac yn arbennig felly yn y gwanwyn a'r haf.
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler gwefan Coed Cadw a gwefan Landscape Britain - ceir yno restr lawn o rywogaethau adar a mamaliaid yng Ngoed Elernion a'r cyffiniau - nid yw'r rhestr ar gael yn Gymraeg gwaetha'r modd.