Pont Plas-y-nant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Rheilffordd Eryri, sef olynydd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, yn croesi Afon Gwyrfai dros Pont Plas-y-nant a gafodd ei henwi ar ôl t...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:20, 18 Mawrth 2021

Mae Rheilffordd Eryri, sef olynydd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, yn croesi Afon Gwyrfai dros Pont Plas-y-nant a gafodd ei henwi ar ôl tŷ mawr cyfagos ar lan ddwyreiniol Afon Gwyrfai. Dyma lle mae'r rheilffordd yn gadael tir Uwchwgyrfai am Isgwyrfai.

Codwyd y bont yn wreiddiol tua 1878, ac fe'i wnaed o haearn bwrw. Ar ôl ystyriaeth o'i chyflwr, penderfynodd y cwmni rheilffordd nad oedd hi'n ddiogel ac fe'i hailadeiladwyd i'r patrwm gwreiddiol, gan ei hagor yn 2021.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol