Gwaith llechi Inigo Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Gwaith Llechi Inigo Jones ar fin ffordd fawr Caernarfon-Porthmadog (A487), tua hanner ffordd rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes. Sefydlwyd y cwmni'n wrei...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:08, 24 Chwefror 2021
Mae Gwaith Llechi Inigo Jones ar fin ffordd fawr Caernarfon-Porthmadog (A487), tua hanner ffordd rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes. Sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol ym 1861, yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Roedd hwnnw'n fusnes mawr yn ei ddydd ac, yn wir, am ddegawdau lawer wedyn gan i lechi (yn hytrach na phapur) gael eu defnyddio gan blant mewn llawer o ysgolion tan ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif. Roedd nifer o gwmnïau eraill yn ardaloedd y llechi yng Ngogledd Cymru hefyd yn creu llechi ysgrifennu o'r fath.
Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio'r un deunydd crai, sef llechen Gymreig 500 miliwn o flynyddoedd oed, i greu cynnyrch pensaernïol, cerrig coffadwriaethol a chrefftau i’r tŷ ac i'r ardd. Erbyn hyn mae'r safle wedi datblygu'n atyniad pwysig i ymwelwyr, gydag ystafell arddangos a siop sylweddol yn gwerthu'r cynnyrch, yn ogystal â chaffi, siop fferm ac atyniadau i blant.
Gwaith Llechi Inigo Jones a luniodd y llechen a welir yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog a ddadorchuddiwyd pan agorwyd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yno ym mis Ebrill 2006.