Bwlch y Moch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Bwlch y Moch''' i'r gogledd o Clogwyn y Garreg ym mhen dwyreiniol Dyffryn Nantlle. Adeiladwyd cronfa ddŵr ar gyfer Gwaith copr Drws-y-co...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:08, 24 Chwefror 2021

Mae Bwlch y Moch i'r gogledd o Clogwyn y Garreg ym mhen dwyreiniol Dyffryn Nantlle. Adeiladwyd cronfa ddŵr ar gyfer Gwaith copr Drws-y-coed ar dop y bwlch lle mae cors heddiw, ac olion wal y gronfa. Mae llwybr trwy'r bwlch o fferm Drws-y-coed Isaf i Blanwydd yn Nyffryn Gwyrfai ar hyd gwaelod llethr Foel Rudd, ond i bob pwrpas, nodwedd daearyddol yn unig yw Bwlch y Moch, gan fod ffordd y dyffryn, sef B4418, yn croesi i Ddyffryn Gwyrfai i'r dew o Glogwyn y Garreg trwy Fwlch Gylfin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau