Nantlle (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Nantlle''' yn enw ar un o drefgorddau plwyf Llanllyfni. Gan mai Eithinog oedd y drefgordd arall y...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:54, 23 Chwefror 2021
Roedd Nantlle yn enw ar un o drefgorddau plwyf Llanllyfni. Gan mai Eithinog oedd y drefgordd arall yn y plwyf,[1] mae'n bur sicr mai ardaloedd Mynydd Llanllyfni a Dyffryn Nantlle i'r dwyrain o eglwys y plwyf) yn fras oedd y tiroedd o fewn ffiniau trefgordd Nantlle. Mae'n bosibl mai "Llanllyfni" oedd enw'r drefgordd yn y Canol Oesodd, gan nad oes sôn am drefgordd Nanlle yn nogfen Record of Caernarvon[2] ond rhestrir manaylion am drefgorddau Llanllyfni ac Eithinog, er nad oes sicrwydd o hyn ar gael.