Teulu'r Darbishires: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 41: Llinell 41:
   Ada              1883-197?          David Kerr
   Ada              1883-197?          David Kerr


Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a [[C.S.Darbishire|Charles Steven]] (Stufn Darbi neu'r Hen Ddarbi ar dafod leferydd yn Nhrefor), gyda'r olaf yn Reolwr Cyffredinol [[Chwarel yr Eifl]], Trefor, o 1918 hyd 1948. Trigai ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a ddaeth, ganol y 1970au, yn dŷ tafarn a bwyty. Bu C.S.Darbishire yn ffermio [[Elernion]] a Nant Bach (dan ofal hwsmon) o ddechrau'r 50au ymlaen, dwy fferm deuluol yn Nhrefor.
Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a [[Charles Stephen Darbishire|Charles Stephen]] (Stufn Darbi neu'r Hen Ddarbi ar dafod leferydd yn Nhrefor), gyda'r olaf yn Reolwr Cyffredinol [[Chwarel yr Eifl]], Trefor, o 1918 hyd 1948. Trigai ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a ddaeth, ganol y 1970au, yn dŷ tafarn a bwyty. Bu C.S.Darbishire yn ffermio [[Elernion]] a Nant Bach (dan ofal hwsmon) o ddechrau'r 50au ymlaen, dwy fferm deuluol yn Nhrefor.


Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod.
Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod.

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:12, 12 Chwefror 2021

Patriarch teulu cefnog a dylanwadol y Darbishires, fu'n rheoli chwareli ithfaen Trefor a Phenmaen-mawr am flynyddoedd maith, oedd Samuel Dukinfield Darbishire, gŵr Mary (nee Blackmore). Priodwyd y ddau 10 Hydref 1825. Ganwyd Samuel ar yr 28ain o Chwefror 1796 yn Bolton-le-Moors, swydd Gaerhirfryn yn Lloegr, yn fab i Robert a Sarah Kay Darbishire (1774-1817). Roedd Robert Darbishire (1769-1840) yn fab i James Darbishire (1729-1790) ac Anne Dukinfield (1732-1802), a'r James hwn yn fab i Samuel Darbishire (1695-1748) a Rebecca Crompton (? - 1737).

Roedd S.D.D. yn gyfreithiwr llwyddiannus a chefnog yn ninas Manceinion ac yn gyfreithiwr Cwmni Rheilffyrdd Caer a Chaergybi,a Swyddi Caerhirfryn ac Efrog. Roedd â chefndir teuluol mewn cloddio am lechi yng Nghymru. Yn grefyddol, Undodwr ydoedd ac yn un o ymddiriedolwyr Capel Cross Street ym Manceinion. Dyna pryd a phle y daeth yn gyfaill mynwesol i William Gaskell. Bu'n un o sylfaenwyr allweddol Coleg Newydd Manceinion yn ogystal ag Athenaeum Manceinion sydd heddiw'n rhan o Oriel Gelf Dinas Manceinion. Trigai'r teulu yn Greenheyes. Samuel oedd sefydlydd ac adeiladydd Ysgol Chorlton ym 1836.

Enillodd ei fab hynaf, Robert Dukinfield, ryddfraint Dinas Manceinion ym 1899 am ei waith dyngarol. Trwy etifeddu rhan o gyfoeth Syr Joseph Whitworth, fe sefydlodd Robert Barc ac Oriel Gelf Whitworth, a sefydlodd ei wraig, Harriet, y Manchester High School for Girls. Trigai Robert a Harriet ym Mharc Fictoria.

Ffrind mynwesol i wraig Samuel, oedd Elizabeth Gaskell, y nofelydd poblogaidd a gwraig William Gaskell, a byddai'r pedwar yn treulio gwyliau'n aml gyda'i gilydd yn Llundain neu yn ail gartref y Darbishires 'yn y wlad'. Y tŷ hwn oedd Pendyffryn, Dwygyfylchi, rhwng Penmaen-mawr a Chonwy.

Bu farw yng Nghonwy ar y 5ed o Awst, 1870, a'i gladdu yn Eglwys Dwygyfylchi.

Cafodd Samuel a Mary 13 o blant :

  PLANT                              EU GŴYR/GWRAGEDD
  Robert Dukinfield   1826-1908      Harriet Ann Cobb
  Marianne            1827-1853      Edward Rigby
  William Arthur      1829-1916      Ellen Taylor
  Russel              1830-1831      marw'n faban
  Vernon              1832-1878      Marie Biller
  Louisa              1834-1911      Samuel Smith Travers   
  Emily               1836-1837      marw'n faban
  Emily               1837-1857      marw'n ifanc
  Sarah Agnes         1839-1917      dibriod
  Francis             1841-1881      Elsa Kate Todhunter
  CHARLES HENRY       1844-1929      Mary Lillian Eckersley
  Samuel Dukinfield   1846-1892      Florence Eckersley
  Mary                1847-1848      marw'n faban

Charles Henry Darbishire, yr unfed plentyn ar ddeg, yw'r gŵr sydd â chysylltiad allweddol â phentref Trefor (yn dad i Charles Stephen Darbishire, Plas yr Eifl). Dyma'i deulu o :

  RHIENI 
  CHARLES HENRY DARBISHIRE             MARY LILIAN ECKERSLEY
               
  PLANT                                GŴYR/GWRAGEDD
  Charles William   1875-1925 (50)     Fanny Davidson
  Henry Watkin      1880-1964 (83)     Blossom Severs
  Harold Dukinfield 1881-1951 (70)     Hester Elizabeth Bright
  Hugh Charles      1885-1963 (78)     Kathleen Isabel Priestman
  Charles Stephen   1886-1971 (85)     Evangeline Priestman
  Mary Lilian       1876-1956 (80)     Graeme Hamilton
  Louisa            1878-1972 (94)     Elliot Dunville Herman
  Ada               1883-197?          David Kerr

Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a Charles Stephen (Stufn Darbi neu'r Hen Ddarbi ar dafod leferydd yn Nhrefor), gyda'r olaf yn Reolwr Cyffredinol Chwarel yr Eifl, Trefor, o 1918 hyd 1948. Trigai ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a ddaeth, ganol y 1970au, yn dŷ tafarn a bwyty. Bu C.S.Darbishire yn ffermio Elernion a Nant Bach (dan ofal hwsmon) o ddechrau'r 50au ymlaen, dwy fferm deuluol yn Nhrefor.

Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod.

Diarddelwyd Hughie Darbishire gan y teulu oherwydd ei fod yn heddychwr brwd, ac yn ffrind mynwesol i George M.Ll.Davies, y Crynwr a'r heddychwr adnabyddus Roedd GMLlD yn ŵyr i'r pregethwr mawr, y Parchedig John Jones, Tal-y-sarn, ac yn frawd i John Glyn Davies, awdur Cerddi Portin-llaen a Cherddi Huw Puw. Yn wir, bu George yn byw am gyfnod gyda theulu Hughie Darbishire ym Moelfre Mawr a Maes Cwm, Llanaelhaearn. Merch i HD oedd Beryl Owen, Trefor, un o'r merched cyntaf un yng Nghymru i gystadlu mewn Rasus Cŵn Defaid.