Craig y Farchas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Y mae '''Craig y Farchas''' yn glogwyn ar ben ogleddol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid yn Farchas, rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:42, 6 Chwefror 2021

Y mae Craig y Farchas yn glogwyn ar ben ogleddol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid yn Farchas, rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.[1] Y pryd hynny yr oedd y gwaith chwarelu am ithfaen heb gychwyn yno, ond ym 1844, agorwyd gwaith setiau gan John Hutton yn yr Hen Ffolt islaw'r graig; ac yn fuan wedyn tyfodd chwarel dau fonc ar y graig uwchben.

Erbyn hyn, mae'r graig ei hun wedi diflannu i raddau dan dipiau Chwarel yr Eifl.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839