Yr Hen Offis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Yr Hen Offis''' oedd swyddfa gyntaf y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ''(Welsh Granite Company)'' oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw | '''Yr Hen Offis''' oedd swyddfa gyntaf y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ''(Welsh Granite Company)'' oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn [[Craig y Farchas]]. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw [[Y Gorllwyn]] (a gyfenwid ar lafar yn ''West End'') wrth droed mynydd [[Garnfor]], yr agosaf i'r môr o dri mynydd [[Yr Eifl|yr Eifl]] ger [[Trefor]]. Fel ''Tai Bach West End'' yr adnabyddir y tai yn lleol. | ||
Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan [[Trefor Jones]]. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Trwyn y | Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr [[Hen Ffolt]] ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan [[Trefor Jones]]. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i [[Trwyn y Tâl|Drwyn y Tâl]] (''Y Clogwyn'') a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r [[Cei Trefor|Cei]]. | ||
Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan | Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan un ceffyl o'r Gorllwyn i'r Weirglodd Fawr, ac yna dau geffyl o'r Weirglodd Fawr i'r harbwr yn nhraeth Gwydir. Gan fod defnyddio ceffylau yn golygu gweithio am ddwyawr ac yna pedair awr o seibiant, byddai angen o leiaf chwe cheffyl, ynghyd â cheffylau a merlod eraill wrth law. Roedd y stabl, o anghenrhaid felly, yn adeilad pur sylweddol. | ||
Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr (fe'i codwyd fel estyniad i'r Swyddfa), a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn, o bosib, tua 1851-52, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn ddilynol (1853). Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd tua 1855-56 ar ôl bod yn lletya yng Ngwydir Bach cyn hynny, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed. | |||
Mae'r tri thŷ ers blynyddoedd lawer yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â'i bod hithau ei hun yn dod yno i aros yn ystod yr haf. Perthynas yw | Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd [[Chwarel Craig y Farchas]] ac agor y chwarel newydd, [[Chwarel yr Eifl]], cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dau dŷ (rhifau 5 a 6), ac addaswyd y stablau hefyd yn bedwar tŷ teras (1-4) ar gyfer y chwarelwyr. Hen dŷ Trefor Jones ddaeth yn rif 7. Y tai hyn oedd y gris cyntaf, fel petae, i deuluoedd newydd, i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd. Ym 1938, oherwydd tamprwydd enbyd o'r cae y tu ôl i'r tai, dymchwelwyd y teras o bedwar, ond deil yr Hen Offis (dau dŷ deulawr), a hen dŷ unllawr Trefor Jones, yn anneddleoedd tlws. | ||
Mae'r tri thŷ ers blynyddoedd lawer yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â'i bod hithau ei hun yn dod yno i aros yn ystod yr haf. Y tri thŷ yma oedd rhifau 5, 6 a 7, a chyn hynny yn Brif Swyddfa a thŷ'r fforman. Bu siop y Cwmni yno hefyd hyd ei chau ym 1867. Perthynas yw'r perchennog presennol (ganwyd 3 Ionawr 1933) i [[Teulu'r Darbishires|deulu'r Darbishires]], fu â llaw amlwg ym mherchnogaeth a rheolaeth Chwarel yr Eifl er 1910, a byddai'n treulio ei gwyliau ym [[Plas yr Eifl|Mhlas yr Eifl]] gyda'r teulu. Ei henw bryd hynny oedd Anya Eltenton a threuliodd ei phlentyndod yng Nghaliffornia, UDA. | |||
Yn 14 oed (1947) daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol ''Ballet'' Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ''ballet'' arbennig o dalentog. Ymunodd â'r Cwmni ym 1951. Yn un ar hugain oed fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn ''Ballerina''. Ymddeolodd ym 1965 yn dilyn priodi John Sainsbury ym 1963. | Yn 14 oed (1947) daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol ''Ballet'' Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ''ballet'' arbennig o dalentog. Ymunodd â'r Cwmni ym 1951. Yn un ar hugain oed fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn ''Ballerina''. Ymddeolodd ym 1965 yn dilyn priodi John Sainsbury ym 1963. | ||
Llinell 13: | Llinell 15: | ||
Y wraig hon (Anya Linden) yw'r Farwnes Sainsbury o Preston Candover, a chyda'i gŵr, hi oedd perchennog y gadwyn siopau enfawr Sainsbury's. Datblygodd Cwmni Sainsbury's daten hybrid newydd sbon ym 1996 a'i henwi'n Anya. Mae ganddynt dri o blant - Sarah, John a Mark. Mae ganddynt hefyd lawer o wahanol ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, a'r fwyaf yw'r Linbury Trust - yr enw'n gyfuniad o Linden a Sainsbury. | Y wraig hon (Anya Linden) yw'r Farwnes Sainsbury o Preston Candover, a chyda'i gŵr, hi oedd perchennog y gadwyn siopau enfawr Sainsbury's. Datblygodd Cwmni Sainsbury's daten hybrid newydd sbon ym 1996 a'i henwi'n Anya. Mae ganddynt dri o blant - Sarah, John a Mark. Mae ganddynt hefyd lawer o wahanol ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, a'r fwyaf yw'r Linbury Trust - yr enw'n gyfuniad o Linden a Sainsbury. | ||
Mae pobl Trefor yn gyfarwydd â'i gweld yr cyrraedd y cae sydd o flaen yr Hen Offis mewn hofrennydd ! | Mae pobl Trefor yn gyfarwydd â'i gweld yr cyrraedd y cae sydd o flaen yr Hen Offis mewn hofrennydd! | ||
[[Categori:Chwarelydda]] | [[Categori:Chwarelydda]] | ||
[[Categori:Anheddau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:24, 5 Chwefror 2021
Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw Y Gorllwyn (a gyfenwid ar lafar yn West End) wrth droed mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o dri mynydd yr Eifl ger Trefor. Fel Tai Bach West End yr adnabyddir y tai yn lleol.
Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (Y Clogwyn) a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei.
Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan un ceffyl o'r Gorllwyn i'r Weirglodd Fawr, ac yna dau geffyl o'r Weirglodd Fawr i'r harbwr yn nhraeth Gwydir. Gan fod defnyddio ceffylau yn golygu gweithio am ddwyawr ac yna pedair awr o seibiant, byddai angen o leiaf chwe cheffyl, ynghyd â cheffylau a merlod eraill wrth law. Roedd y stabl, o anghenrhaid felly, yn adeilad pur sylweddol.
Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr (fe'i codwyd fel estyniad i'r Swyddfa), a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn, o bosib, tua 1851-52, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn ddilynol (1853). Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd tua 1855-56 ar ôl bod yn lletya yng Ngwydir Bach cyn hynny, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed.
Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dau dŷ (rhifau 5 a 6), ac addaswyd y stablau hefyd yn bedwar tŷ teras (1-4) ar gyfer y chwarelwyr. Hen dŷ Trefor Jones ddaeth yn rif 7. Y tai hyn oedd y gris cyntaf, fel petae, i deuluoedd newydd, i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd. Ym 1938, oherwydd tamprwydd enbyd o'r cae y tu ôl i'r tai, dymchwelwyd y teras o bedwar, ond deil yr Hen Offis (dau dŷ deulawr), a hen dŷ unllawr Trefor Jones, yn anneddleoedd tlws.
Mae'r tri thŷ ers blynyddoedd lawer yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â'i bod hithau ei hun yn dod yno i aros yn ystod yr haf. Y tri thŷ yma oedd rhifau 5, 6 a 7, a chyn hynny yn Brif Swyddfa a thŷ'r fforman. Bu siop y Cwmni yno hefyd hyd ei chau ym 1867. Perthynas yw'r perchennog presennol (ganwyd 3 Ionawr 1933) i deulu'r Darbishires, fu â llaw amlwg ym mherchnogaeth a rheolaeth Chwarel yr Eifl er 1910, a byddai'n treulio ei gwyliau ym Mhlas yr Eifl gyda'r teulu. Ei henw bryd hynny oedd Anya Eltenton a threuliodd ei phlentyndod yng Nghaliffornia, UDA.
Yn 14 oed (1947) daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol Ballet Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ballet arbennig o dalentog. Ymunodd â'r Cwmni ym 1951. Yn un ar hugain oed fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn Ballerina. Ymddeolodd ym 1965 yn dilyn priodi John Sainsbury ym 1963.
Y wraig hon (Anya Linden) yw'r Farwnes Sainsbury o Preston Candover, a chyda'i gŵr, hi oedd perchennog y gadwyn siopau enfawr Sainsbury's. Datblygodd Cwmni Sainsbury's daten hybrid newydd sbon ym 1996 a'i henwi'n Anya. Mae ganddynt dri o blant - Sarah, John a Mark. Mae ganddynt hefyd lawer o wahanol ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, a'r fwyaf yw'r Linbury Trust - yr enw'n gyfuniad o Linden a Sainsbury.
Mae pobl Trefor yn gyfarwydd â'i gweld yr cyrraedd y cae sydd o flaen yr Hen Offis mewn hofrennydd!