Chwarel yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffi...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:04, 3 Chwefror 2021

'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng C wmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llyn.

Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill.

'Y Gwaith' oedd ac ydi enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yn dim ond y 'Gwaith Mawr'.