Clwb y Tŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Clwb y twr i Clwb y Tŵr heb adael dolen ailgyfeirio |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adeiladwyd '''Y Tŵr''' yn wreiddiol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] fel tŷ helaeth i stiwardiaid [[Chwarel yr Eifl]]. Mae'n adeilad sylweddol a thal (fel mae ei enw'n awgrymu) ac yn naturiol fe'i codwyd o wenithfaen lwyd y chwarel sydd ar lethrau'r [[Garnfor]] uwch ei ben. Ar un adeg roedd gardd helaeth o'i flaen, ynghyd â gardd lysiau wrth ei ochr. Er mwyn sicrhau pob hwylustod i'r stiwardiaid a drigai yno, fe godwyd Y Tŵr yn union y drws nesaf i swyddfa'r chwarel. Tra oedd [[George Farren]], a fu farw ym 1901, yn rheolwr y chwarel, byddai genethod [[Ysgol Trefor|ysgol y pentref]] (a godwyd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig a'i hagor ym 1878) yn cael dod i'r Tŵr am wersi coginio yn y gegin helaeth a oedd yno. Ond daeth tro ar fyd ym 1901 pan ddaeth y brodyr Wheeler amhoblogaidd i dra-arglwyddiaethu dros y gwaith. Trigai'r prif oruchwyliwr, [[Augustus Henry Wheeler]], ym [[Plas yr Eifl|Mhlas yr Eifl, gyda'r frawd]], Archibald, a oedd yn is-oruchwyliwr, yn byw yn y Tŵr. Ond wedi i hwnnw ffraeo â'r prifathro ar y pryd, [[B.O. Jones]], caewyd drws cegin y Tŵr yn glep yn erbyn genethod yr ysgol.<ref> Geraint Jones, '''Rhen Sgŵl'', (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), t.34.</ref> Yn dilyn ymadawiad y Wheelers ym 1910 ar ôl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr dan eu goruchwyliaeth, daeth cyfnod newydd yn hanes Chwarel yr Eifl pan sefydlwyd y [[Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd.]], a stiwardiaid a gyflogid gan y cwmni hwnnw fu'n preswylio yn y Tŵr wedi hynny. | |||
Pan gaeodd y chwarel ym 1971 rhoddwyd Y Tŵr, a oedd yn wag erbyn hynny ac yn dechrau dirywio, ar werth. Fe'i prynwyd gan [[Tom Bowen Jones]], o fferm Gwydir Bach, [[Trefor]], bardd medrus yn y mesurau caeth, y ceir enghreifftiau o'i waith yn ''Awen Arfon'' ac yn ''O Windy a Gweithdy'r Gân''. Pan ddaeth i'r amlwg mai'r bwriad oedd ailwampio'r adeilad a'i droi'n glwb lle gwerthid alcohol, achosodd hynny raniadau a gwahaniaeth barn sylweddol yn y pentref. Ni fu tafarn yn Nhrefor ers sefydlu'r pentref ym 1856 (yr un agosaf oedd tafarn y [[Tafarn y Rivals|Rivals Inn]] ("Y Ring" yn lleol) yn Llanaelhaearn) a thra oedd rhai o blaid y syniad roedd eraill yn daer yn ei erbyn, yn arbennig gan y bwriedid iddo, fel clwb gydag aelodau yn hytrach na thafarn, fod yn agored ar y Sul, a hynny mewn ardal a oedd yn "sych" ar y pryd. Bu cryn ddeisebu a llythyru yn y wasg ar y mater, a thaniodd awen rhai beirdd, megis y penillion hyn gan John Rowlands o'r Ffôr: | |||
[[Categori: | CLWB TREFOR | ||
Mae pistyll hen yn Nhrefor | |||
Yn rhedeg er cyn co', | |||
Mae'n rhedeg yn rhad eto | |||
I ddisychedu'r fro. | |||
Mae sôn am bistyll arall | |||
Un newydd yn y fro | |||
Pistyll na wna'r pentrefwyr | |||
Mae'n amlwg, ddim ag o. | |||
Pob lwc i ardal Trefor! | |||
Cerddwch yn enw Duw, | |||
Cefnogwch hyd yr eithaf, | |||
Bistyll y dyfroedd byw.<ref> John Rowlands, ''Olwynion Aflonydd'', (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1970), t.79.</ref> | |||
(A'r pistyll y cyfeirir ato yn y pennill cyntaf yw hen bistyll y pentref - y Pin Dŵr, lle deuai'r pentrefwyr i nôl dŵr cyn i ddŵr gael ei bibellu i'r tai.) | |||
Fodd bynnag, yn y diwedd rhoddwyd caniatâd i'r fenter ac agorwyd Clwb y Tŵr. Bu'n agored am oddeutu deugain mlynedd a chynhelid nosweithiau cerddorol a gweithgareddau cymdeithasol eraill yno'n achlysurol. Fodd bynnag, daeth i ben fel clwb dan reolaeth pwyllgor ychydig flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae wedi cael ei ail-enwi'n Tafarn y Tŵr ac yn eiddo i Llywarch Bowen Jones, mab Tom Bowen Jones, a'i deulu. | |||
== Cyfeiriadau == | |||
[[Categori:Clybiau]] | |||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | |||
[[Categori:Tafarndai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:37, 24 Ionawr 2021
Adeiladwyd Y Tŵr yn wreiddiol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig fel tŷ helaeth i stiwardiaid Chwarel yr Eifl. Mae'n adeilad sylweddol a thal (fel mae ei enw'n awgrymu) ac yn naturiol fe'i codwyd o wenithfaen lwyd y chwarel sydd ar lethrau'r Garnfor uwch ei ben. Ar un adeg roedd gardd helaeth o'i flaen, ynghyd â gardd lysiau wrth ei ochr. Er mwyn sicrhau pob hwylustod i'r stiwardiaid a drigai yno, fe godwyd Y Tŵr yn union y drws nesaf i swyddfa'r chwarel. Tra oedd George Farren, a fu farw ym 1901, yn rheolwr y chwarel, byddai genethod ysgol y pentref (a godwyd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig a'i hagor ym 1878) yn cael dod i'r Tŵr am wersi coginio yn y gegin helaeth a oedd yno. Ond daeth tro ar fyd ym 1901 pan ddaeth y brodyr Wheeler amhoblogaidd i dra-arglwyddiaethu dros y gwaith. Trigai'r prif oruchwyliwr, Augustus Henry Wheeler, ym Mhlas yr Eifl, gyda'r frawd, Archibald, a oedd yn is-oruchwyliwr, yn byw yn y Tŵr. Ond wedi i hwnnw ffraeo â'r prifathro ar y pryd, B.O. Jones, caewyd drws cegin y Tŵr yn glep yn erbyn genethod yr ysgol.[1] Yn dilyn ymadawiad y Wheelers ym 1910 ar ôl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr dan eu goruchwyliaeth, daeth cyfnod newydd yn hanes Chwarel yr Eifl pan sefydlwyd y Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd., a stiwardiaid a gyflogid gan y cwmni hwnnw fu'n preswylio yn y Tŵr wedi hynny.
Pan gaeodd y chwarel ym 1971 rhoddwyd Y Tŵr, a oedd yn wag erbyn hynny ac yn dechrau dirywio, ar werth. Fe'i prynwyd gan Tom Bowen Jones, o fferm Gwydir Bach, Trefor, bardd medrus yn y mesurau caeth, y ceir enghreifftiau o'i waith yn Awen Arfon ac yn O Windy a Gweithdy'r Gân. Pan ddaeth i'r amlwg mai'r bwriad oedd ailwampio'r adeilad a'i droi'n glwb lle gwerthid alcohol, achosodd hynny raniadau a gwahaniaeth barn sylweddol yn y pentref. Ni fu tafarn yn Nhrefor ers sefydlu'r pentref ym 1856 (yr un agosaf oedd tafarn y Rivals Inn ("Y Ring" yn lleol) yn Llanaelhaearn) a thra oedd rhai o blaid y syniad roedd eraill yn daer yn ei erbyn, yn arbennig gan y bwriedid iddo, fel clwb gydag aelodau yn hytrach na thafarn, fod yn agored ar y Sul, a hynny mewn ardal a oedd yn "sych" ar y pryd. Bu cryn ddeisebu a llythyru yn y wasg ar y mater, a thaniodd awen rhai beirdd, megis y penillion hyn gan John Rowlands o'r Ffôr:
CLWB TREFOR Mae pistyll hen yn Nhrefor Yn rhedeg er cyn co', Mae'n rhedeg yn rhad eto I ddisychedu'r fro.
Mae sôn am bistyll arall Un newydd yn y fro Pistyll na wna'r pentrefwyr Mae'n amlwg, ddim ag o.
Pob lwc i ardal Trefor! Cerddwch yn enw Duw, Cefnogwch hyd yr eithaf, Bistyll y dyfroedd byw.[2]
(A'r pistyll y cyfeirir ato yn y pennill cyntaf yw hen bistyll y pentref - y Pin Dŵr, lle deuai'r pentrefwyr i nôl dŵr cyn i ddŵr gael ei bibellu i'r tai.)
Fodd bynnag, yn y diwedd rhoddwyd caniatâd i'r fenter ac agorwyd Clwb y Tŵr. Bu'n agored am oddeutu deugain mlynedd a chynhelid nosweithiau cerddorol a gweithgareddau cymdeithasol eraill yno'n achlysurol. Fodd bynnag, daeth i ben fel clwb dan reolaeth pwyllgor ychydig flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae wedi cael ei ail-enwi'n Tafarn y Tŵr ac yn eiddo i Llywarch Bowen Jones, mab Tom Bowen Jones, a'i deulu.