Clwb y Tŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Adeiladwyd Y Tŵr yn wreiddiol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig fel tŷ helaeth i stiwardiaid Chwarel yr Eifl. Mae'n adeilad sylweddol a thal (fel mae ei enw'n awgrymu) ac yn naturiol fe'i codwyd o wenithfaen lwyd y chwarel sydd ar lethrau'r Garnfor uwch ei ben. Ar un adeg roedd gardd helaeth o'i flaen, ynghyd â gardd lysiau wrth ei ochr. Er mwyn sicrhau pob hwylustod i'r stiwardiaid a drigai yno, fe godwyd Y Tŵr yn union y drws nesaf i swyddfa'r chwarel. Tra oedd George Farren, a fu farw ym 1901, yn rheolwr y chwarel, byddai genethod ysgol y pentref (a godwyd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig a'i hagor ym 1878) yn cael dod i'r Tŵr am wersi coginio yn y gegin helaeth a oedd yno. Ond daeth tro ar fyd ym 1901 pan ddaeth y brodyr Wheeler amhoblogaidd i dra-arglwyddiaethu dros y gwaith. Trigai'r prif oruchwyliwr, Augustus Henry Wheeler, ym Mhlas yr Eifl, gyda'r frawd, Archibald, a oedd yn is-oruchwyliwr, yn byw yn y Tŵr. Ond wedi i hwnnw ffraeo â'r prifathro ar y pryd, B.O.Jones, caewyd drws cegin y Tŵr yn glep yn erbyn genethod yr ysgol. <sup>[1]</sup> Yn dilyn ymadawiad y Wheelers ym 1910 ar ôl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr dan eu goruchwyliaeth, daeth cyfnod newydd yn hanes Chwarel yr Eifl pan sefydlwyd y Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd., a stiwardiaid a gyflogid gan y cwmni hwnnw fu'n preswylio yn y Tŵr wedi hynny.   
Adeiladwyd '''Y Tŵr''' yn wreiddiol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] fel tŷ helaeth i stiwardiaid [[Chwarel yr Eifl]]. Mae'n adeilad sylweddol a thal (fel mae ei enw'n awgrymu) ac yn naturiol fe'i codwyd o wenithfaen lwyd y chwarel sydd ar lethrau'r [[Garnfor]] uwch ei ben. Ar un adeg roedd gardd helaeth o'i flaen, ynghyd â gardd lysiau wrth ei ochr. Er mwyn sicrhau pob hwylustod i'r stiwardiaid a drigai yno, fe godwyd Y Tŵr yn union y drws nesaf i swyddfa'r chwarel. Tra oedd [[George Farren]], a fu farw ym 1901, yn rheolwr y chwarel, byddai genethod [[Ysgol Trefor|ysgol y pentref]] (a godwyd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig a'i hagor ym 1878) yn cael dod i'r Tŵr am wersi coginio yn y gegin helaeth a oedd yno. Ond daeth tro ar fyd ym 1901 pan ddaeth y brodyr Wheeler amhoblogaidd i dra-arglwyddiaethu dros y gwaith. Trigai'r prif oruchwyliwr, [[Augustus Henry Wheeler]], ym [[Plas yr Eifl|Mhlas yr Eifl, gyda'r frawd]], Archibald, a oedd yn is-oruchwyliwr, yn byw yn y Tŵr. Ond wedi i hwnnw ffraeo â'r prifathro ar y pryd, [[B.O. Jones]], caewyd drws cegin y Tŵr yn glep yn erbyn genethod yr ysgol.<ref> Geraint Jones, '''Rhen Sgŵl'', (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), t.34.</ref> Yn dilyn ymadawiad y Wheelers ym 1910 ar ôl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr dan eu goruchwyliaeth, daeth cyfnod newydd yn hanes Chwarel yr Eifl pan sefydlwyd y [[Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd.]], a stiwardiaid a gyflogid gan y cwmni hwnnw fu'n preswylio yn y Tŵr wedi hynny.   


Pan gaeodd y chwarel ym 1971 rhoddwyd Y Tŵr, a oedd yn wag erbyn hynny ac yn dechrau dirywio, ar werth. Fe'i prynwyd gan Tom Bowen Jones, o fferm Gwydir Bach, Trefor, bardd medrus yn y mesurau caeth, y ceir enghreifftiau o'i waith yn ''Awen Arfon'' ac yn ''O Windy a Gweithdy'r Gân''. Pan ddaeth i'r amlwg mai'r bwriad oedd ailwampio'r adeilad a'i droi'n glwb lle gwerthid alcohol, achosodd hynny raniadau a gwahaniaeth barn sylweddol yn y pentref. Ni fu tafarn yn Nhrefor ers sefydlu'r pentref ym 1856 (yr un agosaf oedd tafarn y Rivals Inn ("Y Ring" yn lleol) yn Llanaelhaearn) a thra oedd rhai o blaid y syniad roedd eraill yn daer yn ei erbyn, yn arbennig gan y bwriedid iddo, fel clwb gydag aelodau yn hytrach na thafarn, fod yn agored ar y Sul, a hynny mewn ardal a oedd yn "sych" ar y pryd. Bu cryn ddeisebu a llythyru yn y wasg ar y mater, a thaniodd awen rhai beirdd, megis y penillion hyn gan John Rowlands o'r Ffôr:
Pan gaeodd y chwarel ym 1971 rhoddwyd Y Tŵr, a oedd yn wag erbyn hynny ac yn dechrau dirywio, ar werth. Fe'i prynwyd gan [[Tom Bowen Jones]], o fferm Gwydir Bach, [[Trefor]], bardd medrus yn y mesurau caeth, y ceir enghreifftiau o'i waith yn ''Awen Arfon'' ac yn ''O Windy a Gweithdy'r Gân''. Pan ddaeth i'r amlwg mai'r bwriad oedd ailwampio'r adeilad a'i droi'n glwb lle gwerthid alcohol, achosodd hynny raniadau a gwahaniaeth barn sylweddol yn y pentref. Ni fu tafarn yn Nhrefor ers sefydlu'r pentref ym 1856 (yr un agosaf oedd tafarn y [[Tafarn y Rivals|Rivals Inn]] ("Y Ring" yn lleol) yn Llanaelhaearn) a thra oedd rhai o blaid y syniad roedd eraill yn daer yn ei erbyn, yn arbennig gan y bwriedid iddo, fel clwb gydag aelodau yn hytrach na thafarn, fod yn agored ar y Sul, a hynny mewn ardal a oedd yn "sych" ar y pryd. Bu cryn ddeisebu a llythyru yn y wasg ar y mater, a thaniodd awen rhai beirdd, megis y penillion hyn gan John Rowlands o'r Ffôr:


             CLWB TREFOR  
             CLWB TREFOR  
Llinell 18: Llinell 18:
             Cerddwch yn enw Duw,
             Cerddwch yn enw Duw,
             Cefnogwch hyd yr eithaf,
             Cefnogwch hyd yr eithaf,
             Bistyll y dyfroedd byw.<sup>[2]</sup>  
             Bistyll y dyfroedd byw.<ref> John Rowlands, ''Olwynion Aflonydd'', (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1970), t.79.</ref>  


(A'r pistyll y cyfeirir ato yn y pennill cyntaf yw hen bistyll y pentref - y Pin Dŵr, lle deuai'r pentrefwyr i nôl dŵr cyn i ddŵr gael ei bibellu i'r tai.)
(A'r pistyll y cyfeirir ato yn y pennill cyntaf yw hen bistyll y pentref - y Pin Dŵr, lle deuai'r pentrefwyr i nôl dŵr cyn i ddŵr gael ei bibellu i'r tai.)
Llinell 25: Llinell 25:


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[1] Geraint Jones, '''Rhen Sgŵ'', (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), t.34.
[2] John Rowlands, ''Olwynion Aflonydd'', (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1970), t.79.
{{eginyn}}


[[Categori:Clybiau]]
[[Categori:Clybiau]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:37, 24 Ionawr 2021

Adeiladwyd Y Tŵr yn wreiddiol yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig fel tŷ helaeth i stiwardiaid Chwarel yr Eifl. Mae'n adeilad sylweddol a thal (fel mae ei enw'n awgrymu) ac yn naturiol fe'i codwyd o wenithfaen lwyd y chwarel sydd ar lethrau'r Garnfor uwch ei ben. Ar un adeg roedd gardd helaeth o'i flaen, ynghyd â gardd lysiau wrth ei ochr. Er mwyn sicrhau pob hwylustod i'r stiwardiaid a drigai yno, fe godwyd Y Tŵr yn union y drws nesaf i swyddfa'r chwarel. Tra oedd George Farren, a fu farw ym 1901, yn rheolwr y chwarel, byddai genethod ysgol y pentref (a godwyd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig a'i hagor ym 1878) yn cael dod i'r Tŵr am wersi coginio yn y gegin helaeth a oedd yno. Ond daeth tro ar fyd ym 1901 pan ddaeth y brodyr Wheeler amhoblogaidd i dra-arglwyddiaethu dros y gwaith. Trigai'r prif oruchwyliwr, Augustus Henry Wheeler, ym Mhlas yr Eifl, gyda'r frawd, Archibald, a oedd yn is-oruchwyliwr, yn byw yn y Tŵr. Ond wedi i hwnnw ffraeo â'r prifathro ar y pryd, B.O. Jones, caewyd drws cegin y Tŵr yn glep yn erbyn genethod yr ysgol.[1] Yn dilyn ymadawiad y Wheelers ym 1910 ar ôl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr dan eu goruchwyliaeth, daeth cyfnod newydd yn hanes Chwarel yr Eifl pan sefydlwyd y Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd., a stiwardiaid a gyflogid gan y cwmni hwnnw fu'n preswylio yn y Tŵr wedi hynny.

Pan gaeodd y chwarel ym 1971 rhoddwyd Y Tŵr, a oedd yn wag erbyn hynny ac yn dechrau dirywio, ar werth. Fe'i prynwyd gan Tom Bowen Jones, o fferm Gwydir Bach, Trefor, bardd medrus yn y mesurau caeth, y ceir enghreifftiau o'i waith yn Awen Arfon ac yn O Windy a Gweithdy'r Gân. Pan ddaeth i'r amlwg mai'r bwriad oedd ailwampio'r adeilad a'i droi'n glwb lle gwerthid alcohol, achosodd hynny raniadau a gwahaniaeth barn sylweddol yn y pentref. Ni fu tafarn yn Nhrefor ers sefydlu'r pentref ym 1856 (yr un agosaf oedd tafarn y Rivals Inn ("Y Ring" yn lleol) yn Llanaelhaearn) a thra oedd rhai o blaid y syniad roedd eraill yn daer yn ei erbyn, yn arbennig gan y bwriedid iddo, fel clwb gydag aelodau yn hytrach na thafarn, fod yn agored ar y Sul, a hynny mewn ardal a oedd yn "sych" ar y pryd. Bu cryn ddeisebu a llythyru yn y wasg ar y mater, a thaniodd awen rhai beirdd, megis y penillion hyn gan John Rowlands o'r Ffôr:

           CLWB TREFOR 
          
           Mae pistyll hen yn Nhrefor
           Yn rhedeg er cyn co',
           Mae'n rhedeg yn rhad eto
           I ddisychedu'r fro. 
           Mae sôn am bistyll arall
           Un newydd yn y fro
           Pistyll na wna'r pentrefwyr 
           Mae'n amlwg, ddim ag o.
           Pob lwc i ardal Trefor!
           Cerddwch yn enw Duw,
           Cefnogwch hyd yr eithaf,
           Bistyll y dyfroedd byw.[2] 

(A'r pistyll y cyfeirir ato yn y pennill cyntaf yw hen bistyll y pentref - y Pin Dŵr, lle deuai'r pentrefwyr i nôl dŵr cyn i ddŵr gael ei bibellu i'r tai.)

Fodd bynnag, yn y diwedd rhoddwyd caniatâd i'r fenter ac agorwyd Clwb y Tŵr. Bu'n agored am oddeutu deugain mlynedd a chynhelid nosweithiau cerddorol a gweithgareddau cymdeithasol eraill yno'n achlysurol. Fodd bynnag, daeth i ben fel clwb dan reolaeth pwyllgor ychydig flynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn mae wedi cael ei ail-enwi'n Tafarn y Tŵr ac yn eiddo i Llywarch Bowen Jones, mab Tom Bowen Jones, a'i deulu.

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl, (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), t.34.
  2. John Rowlands, Olwynion Aflonydd, (Gwasg Tŷ ar y Graig, 1970), t.79.