Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Etifeddodd '''Spencer Bulkeley Wynn''' deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd Thomas John ar f...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Etifeddodd '''Spencer Bulkeley Wynn''' deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd [[Thomas John, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr [[Ystad Glynllifon]] tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.
Etifeddodd '''Spencer Bulkeley Wynn''' (1803-1888)  deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n gweithredu fel rheolwr [[Ystad Glynllifon]] tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi ddaliodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.<ref>Archifdy Caernarfon. XD2/''passim''.</ref> Gwariodd ef a'i fab, [[Frederick George Wynn|Frederick Wynn]], a'i holynodd, yn helaeth iawn ar ffermydd yr ystâd. Ar lawer o'u ffermydd adeiladwyd tai newydd helaeth o gerrig wedi'u trin a'u toi â llechi chwareli Gogledd Cymru. Roedd y tai hyn yn fodern iawn a chyfforddus yn eu cyfnod. Yn ogystal adeiladwyd beudai, ysguboriau a chytiau moch gan ddefnyddio'r un deunydd a dulliau adeiladu ar lawer o'r ffermydd hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn dal i sefyll ar hyd a lled [[Arfon]], Eifionydd a Llŷn ac mae'n ddigon hawdd adnabod ffermydd a fu'n eiddo i ystâd Glynllifon gan fod y tai a'r adeiladau mor debyg i'w gilydd. Y cyfan a wneid fel rheol oedd addasu tipyn ar un cynllun sylfaenol yn ôl y galw mewn gwahanol ffermydd. Daeth Spencer Wynn yn feistr tir uchel ei barch ymysg rhelyw ei denantiaid ac mewn oes pan oedd cymaint o sgweieriaid yn ormesol ac afradlon, fe'i hystyrid yn dirfeddiannwr doeth a blaengar. 


Ail fab [[Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] ac ail wraig hwnnw, [[Maria Stella Petronella Chiappini]] oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas trwy briodas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Spencer_Perceval]</ref>
Ail fab [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] ac ail wraig hwnnw, [[Maria Stella]] oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812, trwy briodas<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Spencer_Perceval]; gwraig gyntaf Syr Thomas Wynn oedd chwaer Spencer Perceval, mab 2il Iarll Egmont. Spencer Perceval oedd yr unig brif weinidog ym Mhrydain i gael ei lofruddio, a hynny ym 1812.</ref>
 
Edrychai Spencer Wynn arno ei hun fel tirfeddiannwr o Gymru, gan wfftio honiadau ei fam a'i chefnogwyr fod ganddo hawl ar goron Ffrainc, ac er iddo fod yn brysur iawn ym materion sirol, ni cheisiodd am swyddi megis aelod seneddol yn San Steffan neu un o'r seddau a neilltuwyd i Arglwyddi o'r Bendefigaeth Wyddelig yn Nhŷ'r Arglwyddi.
 
Priododd ei gyfnither, Fanny (Frances Maria) de Winton, o'r Gelli Gandryll, Sir Faesyfed ym 1834. Yr oedd hi'n ferch i Maria Jacoba, chwaer Maria Stella a'i gŵr y Parch. Walter Wilkins. Cafwyd 10 o blant o'r uniad, sef Frances Maria (1835-1886); Emily Anina (g.1837); Ellen Glynn (g.1839); Thomas John (1840-78); Catherine (1842-1885); Isabella Elizabeth (1842-1885); William Perceval (1845-1851); Charles Henry (1847-1911) a etifeddodd Ystad Rhug; Mary Georgiana (1851); a [[Frederick George Wynn|Frederick George]], (g. 1853).<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.173.</ref>
 
Roedd Spencer Wynn yn eithriadol hoff o Ynys Enlli, a oedd yn rhan o'i ystâd. Er mor anghysbell oedd, gwariodd yn helaeth ar godi ffermdai ac adeiladau amaethyddol newydd o safon uchel ar Enlli hefyd, fel y gwnaeth yng ngweddill ei ystâd. Arferai fynd ar wyliau i Enlli yn gyson yn yr haf gan letya yn un o'r ffermdai gyda'r teulu a oedd yn ei dal fel tenantiaid iddo. A phan fu farw ym 1888 ar Enlli y dymunai gael ei gladdu ac fe'i claddwyd mewn claddgell mewn darn ar wahân i'r fynwent ac wrth ochr gweddillion yr abaty. Uwchben ei fedd mae anferth o groes Geltaidd fawr garreg, sy'n eironig braidd o weld yr arysgrif, yn Gymraeg, sydd ar fôn y beddfaen lle mae'n nodi ei ddymuniad i gael ei gladdu ar Enlli "heb na rhwysg na rhodres". Mae ei golofn dipyn yn fwy na'r groes Geltaidd gyffelyb sydd yn y fynwent gerllaw i goffáu'r ugain mil o saint a gladdwyd ar yr ynys yn ôl traddodiad.
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:14, 24 Ionawr 2021

Etifeddodd Spencer Bulkeley Wynn (1803-1888) deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd Thomas John ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n gweithredu fel rheolwr Ystad Glynllifon tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi ddaliodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.[1] Gwariodd ef a'i fab, Frederick Wynn, a'i holynodd, yn helaeth iawn ar ffermydd yr ystâd. Ar lawer o'u ffermydd adeiladwyd tai newydd helaeth o gerrig wedi'u trin a'u toi â llechi chwareli Gogledd Cymru. Roedd y tai hyn yn fodern iawn a chyfforddus yn eu cyfnod. Yn ogystal adeiladwyd beudai, ysguboriau a chytiau moch gan ddefnyddio'r un deunydd a dulliau adeiladu ar lawer o'r ffermydd hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn dal i sefyll ar hyd a lled Arfon, Eifionydd a Llŷn ac mae'n ddigon hawdd adnabod ffermydd a fu'n eiddo i ystâd Glynllifon gan fod y tai a'r adeiladau mor debyg i'w gilydd. Y cyfan a wneid fel rheol oedd addasu tipyn ar un cynllun sylfaenol yn ôl y galw mewn gwahanol ffermydd. Daeth Spencer Wynn yn feistr tir uchel ei barch ymysg rhelyw ei denantiaid ac mewn oes pan oedd cymaint o sgweieriaid yn ormesol ac afradlon, fe'i hystyrid yn dirfeddiannwr doeth a blaengar.

Ail fab Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ac ail wraig hwnnw, Maria Stella oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812, trwy briodas[2]

Edrychai Spencer Wynn arno ei hun fel tirfeddiannwr o Gymru, gan wfftio honiadau ei fam a'i chefnogwyr fod ganddo hawl ar goron Ffrainc, ac er iddo fod yn brysur iawn ym materion sirol, ni cheisiodd am swyddi megis aelod seneddol yn San Steffan neu un o'r seddau a neilltuwyd i Arglwyddi o'r Bendefigaeth Wyddelig yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Priododd ei gyfnither, Fanny (Frances Maria) de Winton, o'r Gelli Gandryll, Sir Faesyfed ym 1834. Yr oedd hi'n ferch i Maria Jacoba, chwaer Maria Stella a'i gŵr y Parch. Walter Wilkins. Cafwyd 10 o blant o'r uniad, sef Frances Maria (1835-1886); Emily Anina (g.1837); Ellen Glynn (g.1839); Thomas John (1840-78); Catherine (1842-1885); Isabella Elizabeth (1842-1885); William Perceval (1845-1851); Charles Henry (1847-1911) a etifeddodd Ystad Rhug; Mary Georgiana (1851); a Frederick George, (g. 1853).[3]

Roedd Spencer Wynn yn eithriadol hoff o Ynys Enlli, a oedd yn rhan o'i ystâd. Er mor anghysbell oedd, gwariodd yn helaeth ar godi ffermdai ac adeiladau amaethyddol newydd o safon uchel ar Enlli hefyd, fel y gwnaeth yng ngweddill ei ystâd. Arferai fynd ar wyliau i Enlli yn gyson yn yr haf gan letya yn un o'r ffermdai gyda'r teulu a oedd yn ei dal fel tenantiaid iddo. A phan fu farw ym 1888 ar Enlli y dymunai gael ei gladdu ac fe'i claddwyd mewn claddgell mewn darn ar wahân i'r fynwent ac wrth ochr gweddillion yr abaty. Uwchben ei fedd mae anferth o groes Geltaidd fawr garreg, sy'n eironig braidd o weld yr arysgrif, yn Gymraeg, sydd ar fôn y beddfaen lle mae'n nodi ei ddymuniad i gael ei gladdu ar Enlli "heb na rhwysg na rhodres". Mae ei golofn dipyn yn fwy na'r groes Geltaidd gyffelyb sydd yn y fynwent gerllaw i goffáu'r ugain mil o saint a gladdwyd ar yr ynys yn ôl traddodiad.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon. XD2/passim.
  2. Wicipedia, [1]; gwraig gyntaf Syr Thomas Wynn oedd chwaer Spencer Perceval, mab 2il Iarll Egmont. Spencer Perceval oedd yr unig brif weinidog ym Mhrydain i gael ei lofruddio, a hynny ym 1812.
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.173.