Dolbebin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hen annedd oedd Dolbebin, neu '''Dôl Pebin''' fel y gelwir weithiau. Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddol Pebin – ta...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:10, 10 Rhagfyr 2017
Hen annedd oedd Dolbebin, neu Dôl Pebin fel y gelwir weithiau.
Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddol Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Nid oedd Math i fyw heb fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo fod yn brwydro.
Awgrymai rhai fod mae yn ardal Talysarn oedd Dolbebin, sef y man ymhle mae ystâd Bro Silyn heddiw. Mae’r annedd hon hefyd yn ymddangos yng ngherdd R. Williams Parry, ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.
Ffynonellau
Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)