Tafarn y Rivals: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''tafarn y Rivals''' Inn (neu'r "Ring" fel y gelwid hi'n lleol) ynghanol pentref [[Llanaelhaearn]] ac fe'i hadeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er ei bod wedi cau ers rhai blynyddoedd bellach bu'n dafarn bur boblogaidd am flynyddoedd ac roedd mewn safle hwylus i ddenu cwsmeriaid gan ei bod ar fin ffordd brysur yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli. Hefyd wrth i bentref chwarelyddol [[Trefor]] gerllaw gynyddu'n gyflym yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth y "Ring" i ddibynnu cryn dipyn ar gwsmeriaeth rhai o drigolion Trefor. Ni fu tafarn yn Nhrefor nes i [[Clwb y Tŵr|Glwb y Tŵr]] (Tafarn y Tŵr erbyn hyn) gael ei agor yn y 1970au.
Saif '''tafarn y Rivals''' Inn (neu'r "Ring" fel y gelwid hi'n lleol) ynghanol pentref [[Llanaelhaearn]] ac fe'i hagorwyd ym 1864. Er ei bod wedi cau ers rhai blynyddoedd bellach bu'n dafarn bur boblogaidd am flynyddoedd ac roedd mewn safle hwylus i ddenu cwsmeriaid gan ei bod ar fin ffordd brysur yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli. Hefyd wrth i bentref chwarelyddol [[Trefor]] gerllaw gynyddu'n gyflym yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth y "Ring" i ddibynnu cryn dipyn ar gwsmeriaeth rhai o drigolion Trefor. Ni fu tafarn yn Nhrefor nes i [[Clwb y Tŵr|Glwb y Tŵr]] (Tafarn y Tŵr erbyn hyn) gael ei agor yn y 1970au.


Er mai adeilad cymharol fychan ydyw, roedd y "Ring" yn cynnig llety yn ogystal â bwyd a diod ar un cyfnod. Un a fu'n lletya yno ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd y Parchedig Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd, tra oedd yn arwain gwaith cloddio archeolegol ym mryngaer [[Tre'r Ceiri]] gerllaw. Priodol nodi hefyd mai merch y "Ring" oedd Mrs Jones, a roddodd dŷ helaeth yr oedd wedi'i adeiladu iddi'i hun rhwng Pwllheli a'r Ffôr i'w droi'n ysbyty. Fe'i sefydlwyd fel Ysbyty'r Bwth Pwllheli (Pwllheli Cottage Hospital) ym 1924, cyn ei helaethu yn ysbyty i'r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach dyma Ysbyty Bryn Beryl.
Er mai adeilad cymharol fychan ydyw, roedd y "Ring" yn cynnig llety yn ogystal â bwyd a diod ar un cyfnod. Un a fu'n lletya yno ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd y Parchedig Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd, tra oedd yn arwain gwaith cloddio archeolegol ym mryngaer [[Tre'r Ceiri]] gerllaw. Priodol nodi hefyd mai merch y "Ring" oedd Mrs Jones, a roddodd dŷ helaeth yr oedd wedi'i adeiladu iddi'i hun rhwng Pwllheli a'r Ffôr i'w droi'n ysbyty. Fe'i sefydlwyd fel Ysbyty'r Bwth Pwllheli (Pwllheli Cottage Hospital) ym 1924, cyn ei helaethu yn ysbyty i'r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach dyma Ysbyty Bryn Beryl.

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:41, 19 Ionawr 2021

Saif tafarn y Rivals Inn (neu'r "Ring" fel y gelwid hi'n lleol) ynghanol pentref Llanaelhaearn ac fe'i hagorwyd ym 1864. Er ei bod wedi cau ers rhai blynyddoedd bellach bu'n dafarn bur boblogaidd am flynyddoedd ac roedd mewn safle hwylus i ddenu cwsmeriaid gan ei bod ar fin ffordd brysur yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli. Hefyd wrth i bentref chwarelyddol Trefor gerllaw gynyddu'n gyflym yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif daeth y "Ring" i ddibynnu cryn dipyn ar gwsmeriaeth rhai o drigolion Trefor. Ni fu tafarn yn Nhrefor nes i Glwb y Tŵr (Tafarn y Tŵr erbyn hyn) gael ei agor yn y 1970au.

Er mai adeilad cymharol fychan ydyw, roedd y "Ring" yn cynnig llety yn ogystal â bwyd a diod ar un cyfnod. Un a fu'n lletya yno ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd y Parchedig Sabine Baring-Gould, awdur a hynafiaethydd, tra oedd yn arwain gwaith cloddio archeolegol ym mryngaer Tre'r Ceiri gerllaw. Priodol nodi hefyd mai merch y "Ring" oedd Mrs Jones, a roddodd dŷ helaeth yr oedd wedi'i adeiladu iddi'i hun rhwng Pwllheli a'r Ffôr i'w droi'n ysbyty. Fe'i sefydlwyd fel Ysbyty'r Bwth Pwllheli (Pwllheli Cottage Hospital) ym 1924, cyn ei helaethu yn ysbyty i'r llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach dyma Ysbyty Bryn Beryl.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau