Siop y Felin, Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Siop y Felin''' ym mhentref Nantlle ar draws y ffordd i'r Barics, ac am amser bu'n Swyddfa Bost ar gyfer pentref Nantlle. Mae'r adeilad w...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:28, 3 Ionawr 2021

Roedd Siop y Felin ym mhentref Nantlle ar draws y ffordd i'r Barics, ac am amser bu'n Swyddfa Bost ar gyfer pentref Nantlle. Mae'r adeilad wedi ei newid a'i addasu'n dŷ annedd yn unig erbyn hyn. Nid oes Swyddfa'r Bost yn Nantlle bellach, ond yn y man, symudodd y Swyddfa Bost o Siop y Felin i'w safle olaf, wrth y drofa yn y ffordd fawr ger Plas Nantlle.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 20g., un o feibion Tal-y-mignedd Isaf, Robert Hughes Jones, oedd yn cadw'r siop a'r post.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan y teulu