Alun Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Alun Jones''', a fagwyd ym mhentref [[Trefor]] yn un o'n nofelwyr amlycaf a mwyaf cynhyrchiol.  
Mae '''Alun Jones''', a fagwyd ym mhentref [[Trefor]] yn un o'n nofelwyr amlycaf a mwyaf cynhyrchiol.  

Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio ffiseg cyn dychwelyd i'w fro enedigol. Yn ddyn ifanc yn nechrau'r 1970au sefydlodd siop lyfrau Llên Llŷn ym Mhwllheli a ddatblygodd yn fusnes llewyrchus. Erbyn hyn mae'r siop yng ngofal ei fab, Llifon, ac newydd symud [yn 2020] i adeilad helaethach yn Rhes Meitr Mhwllheli.  
Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio ffiseg cyn dychwelyd i'w fro enedigol. Yn ddyn ifanc yn nechrau'r 1970au sefydlodd siop lyfrau Llên Llŷn ym Mhwllheli a ddatblygodd yn fusnes llewyrchus. Erbyn hyn mae'r siop yng ngofal ei fab, Llifon, ac newydd symud [yn 2020] i adeilad helaethach yn Rhes Meitr ym Mhwllheli.  

Daeth i amlygrwydd gyda'i nofel gyntaf ''Ac yna clywodd sŵn y môr'' sydd wedi ei lleoli yn Llŷn, fel y mae nifer o'i weithiau diweddarach. Erbyn hyn mae'r gyfrol hon wedi mynd drwy sawl argraffiad ac wedi bod yn llyfr gosod ar gyfer arholiadau TGAU llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd. Mae'n stori dditectif yn ei hanfod ond hefyd yn ymdrin â serch a materion cymdeithasol, gyda'r môr (fel mae'r teitl yn ei awgrymu) yn elfen bwysig ym mywydau'r cymeriadau. Wedi llwyddiant ei nofel gyntaf, mae Alun Jones wedi bod yn gynhyrchiol iawn fel nofelydd ar hyd y degawdau diwethaf ac ymhlith ei weithiau gellir nodi ''Oed Rhyw Addewid'' - nofel wedi ei lleoli yn ei bentref genedigol, Trefor, ac yn ymdrin â digwyddiadau o'i blentyndod a'i lencyndod pan oedd [[Chwarel yr Eifl]] yn dal yn gyflogwr pwysig yn y gymdogaeth ac yn ganolbwynt i fywyd y pentref. Mae ei nofelau diweddarach yn cynnwys ''Draw Dros y Tonnau Bach'', ''Y Llaw Wen'', ''Fy Mrawd a Minnau'', ''Simdde yn y Gwyll'', ''Taith yr Aderyn'' a ''Lliwiau'r Eira''.

Llinell 13: Llinell 13:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]
[[Catgeori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Siopwyr]]
[[Categori:Siopwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:10, 31 Rhagfyr 2020

Mae Alun Jones, a fagwyd ym mhentref Trefor yn un o'n nofelwyr amlycaf a mwyaf cynhyrchiol.

Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio ffiseg cyn dychwelyd i'w fro enedigol. Yn ddyn ifanc yn nechrau'r 1970au sefydlodd siop lyfrau Llên Llŷn ym Mhwllheli a ddatblygodd yn fusnes llewyrchus. Erbyn hyn mae'r siop yng ngofal ei fab, Llifon, ac newydd symud [yn 2020] i adeilad helaethach yn Rhes Meitr ym Mhwllheli.

Daeth i amlygrwydd gyda'i nofel gyntaf Ac yna clywodd sŵn y môr sydd wedi ei lleoli yn Llŷn, fel y mae nifer o'i weithiau diweddarach. Erbyn hyn mae'r gyfrol hon wedi mynd drwy sawl argraffiad ac wedi bod yn llyfr gosod ar gyfer arholiadau TGAU llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd. Mae'n stori dditectif yn ei hanfod ond hefyd yn ymdrin â serch a materion cymdeithasol, gyda'r môr (fel mae'r teitl yn ei awgrymu) yn elfen bwysig ym mywydau'r cymeriadau. Wedi llwyddiant ei nofel gyntaf, mae Alun Jones wedi bod yn gynhyrchiol iawn fel nofelydd ar hyd y degawdau diwethaf ac ymhlith ei weithiau gellir nodi Oed Rhyw Addewid - nofel wedi ei lleoli yn ei bentref genedigol, Trefor, ac yn ymdrin â digwyddiadau o'i blentyndod a'i lencyndod pan oedd Chwarel yr Eifl yn dal yn gyflogwr pwysig yn y gymdogaeth ac yn ganolbwynt i fywyd y pentref. Mae ei nofelau diweddarach yn cynnwys Draw Dros y Tonnau Bach, Y Llaw Wen, Fy Mrawd a Minnau, Simdde yn y Gwyll, Taith yr Aderyn a Lliwiau'r Eira.

Mae Alun Jones yn weithgar gyda phapur bro Llanw Llŷn. Ers blynyddoedd lawer bu ganddo golofn fisol yn y papur, sef Stondin Sam, lle mae'n ymdrin â materion cyfoes a phynciau llosg y dydd gan ddweud ei farn yn blaen a gonest. Mae'n ymgymryd â gwaith golygyddol ar y papur yn ogystal. Ef hefyd yw golygydd Y Casglwr, cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen, a gyhoeddir yn chwarterol.

Ar ôl priodi ag Ann ymgartrefodd Alun ar gyrion pentref Sarn Mellteyrn yn Llŷn ac mae ganddynt bump o feibion.

Cyfeiriadau