Richard Jones (Gwyndaf Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:21, 12 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Richard Jones (Gwyndaf Eryri), (1785-1848) yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen, ond daeth i amlygrwydd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Bu'n aelod o Gymdeithas yr Eryron.[1] Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlws y Gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen. Roedd hefyd yn gerddor mewn band y fintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan yr Arglwydd Newborough.[2]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 30.9.1813, t.4
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.476