Lôn Newydd, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:57, 27 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Am flynyddoedd maith dim ond un lôn oedd yn mynd i lawr o briffordd Pwllheli - Caernarfon i bentref Trefor, ac ardal yr Hendra cyn bodolaeth y pentref chwarelyddol. Hon oedd yr Hen Lôn (a dyna ei henw o hyd i'r trigolion) gul a throellog sy'n cychwyn o Ben Lôn ac yn mynd ymlaen i ganol y pentref ar Ben Hendra. Bu galw am ddegawdau am well ffordd i'r pentref ac ym mis Mawrth 1936 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd lydan a syth bin i lawr o'r briffordd i Drefor, a honno rhyw hanner milltir yn nes i Gaernarfon na'r hen ffordd gan fynd heibio i ffermydd Capas Lwyd a Tir Du. Cyngor Sir Gaernarfon oedd tu ôl i'r cynllun a'r bwriad oedd rhoi gwaith i rai o'r chwarelwyr ynghanol y tri-degau llwm. Fodd bynnag, yn ôl Gwilym Owen ychydig o'r chwarelwyr lleol a gyflogwyd ar y cynllun yn y diwedd. Rhoddwyd y tir yn rhad gan Ystad Broom Hall, Aber-erch a chwmni'r chwarel, y Penmaenmawr & Welsh Granite Company. Goruchwyliwyd y gwaith ar ran y Cyngor Sir gan David Owen Jones, a fu ar un adeg yn Gynghorydd Sirol ac yn Ysgrifennydd cangen yr undeb yn Chwarel yr Eifl.[1] Er ei bod bellach bron yn 90 oed (2025) gelwir y ffordd hon o hyd yn Lôn Newydd a'r fan lle mae'n cychwyn o'r briffordd yn Ben Lôn Newydd.

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, Penrhyndeudraeth, 1972, tt.84-5.