Tafarn y Maltster's Arms
Roedd Tafarn y Maltster's Arms yn sefyll lle mae ystad newydd o dai yn y Bontnewydd y tu draw i hen deras Rhes Malsters. Roedd tair res o dai ar y safle tua dechrau'r 20g., ond erbyn hyn dim ond y rhes gyntaf sy'n sefyll. Nodir y dafarn ar fapiau Ordnans 25" (1900 a 1918).