Tafarn y Stag, Pen-y-groes
(Ailgyfeiriad o Tafarn y Stag (Pen-y-groes))
Roedd Tafarn y Stag's Head ar brif stryd Pen-y-groes, wrth yr hen groesffordd lle'r oedd Banc y Midland. Roedd yn hen dafarn a wasanaetrhai fel man gorffwys a newid ceffylau ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Daeth y dafarn wedyn yn siop nwyddau haearn, sef Siop Griffiths. Roedd adeilad Rheilffordd Nantlle gerllaw, a chredir i deithwyr ddefnyddio'r dafarn wrth ddisgwyl am drên. Mae sôn am i Samuel Holland, perchennog chwareli o Flaenau Ffestiniog, wneud hynny tua 1830.[1] Dyna'r cyfiawnhad, mae'n debyg, i'r perchnogion presennol, Cwmni Siop Griffiths Cyf., alw eu caffi "Yr Orsaf".
Yn ôl y sôn yr oedd naw tafarn ym Mhen-y-groes ar un adeg yn y 19g.[2]