Sarah Sarah (Seren Aerau)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Sarah Jones (Seren Aerau))
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Merch o Frynaerau, a chontralto nodedig, oedd Sarah Jones a briododd â Tom Sarah. Robert Jones, amaethwr o'r Ffridd, Brynaearau oedd ei thad, codwr canu yng Nghapel Brynaerau (MC).[1] Fe arddelai'r ffugenw Seren Aerau pan yn cynnal cyngherddau. Cafodd bump o blant yn cynnwys y gantores enwog Mary King Sarah. Symudodd o Ddyffryn Nantlle gyda'i gŵr a dwy ferch i America i fod yn nes at Mary, wedi i honno ymsefydlu yn yr Unol Daleithiau, tua 1913. Mab iddi oedd y cerddor John Sarah (Pencerdd Cernyw).

Roedd Sarah Sarah yn perthyn o bell i'r pensaer enwog Frank Lloyd Wright.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Drych, 3 Hydref 1918, t.4
  2. Y Casglwr, Gwanwyn 1991, t.5