Afon Drws-y-coed
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Afon Drws-y-coed yw'r enw a roddir fel rheol ar yr afon sy'n llifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf, er, mewn gwirionedd, rhan uchaf Afon Llyfni ydyw. Mae ei tharddiad yng nghorsydd Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed a Rhyd-ddu.
Defnyddid dŵr yr afon i droi peiriannau'r gwaith copr yn Nrws-y-coed, ac i olchi'r mwynau a ddeuai o'r mwynfeydd. Oherwydd hyn trowyd dŵr yr afon yn gochaidd, ac enw'r ardalwyr arni felly oedd Afon Gopr. Roedd y mwynau yn y dŵr a ddeuai o'r gwaith yn golygu nad oedd brithyll yn gallu byw yn yr afon o gwbl.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma