Pont Tyddyn Drain
Saif Pont Tyddyn Drain ym mhlwyf Llanaelhaearn, gerllaw fferm o'r un enw, ar waelod yr allt o Lanaelhaearn ar y brif ffordd i gyfeiriad Caernarfon.
Fe'i hailadeiladwyd ym 1836 i ddyluniad gan William Thomas, syrfewr y sir, ac roedd y contract yn cynnwys ailwneud y lôn a'i hailwynebu gyda metelu newydd 6" o drwch am 100 llath o bobtu'r bont a chodi waliau newydd. Y contractor oedd John Prichard, Trefair, Abergwyngregin. Diddorol yw sylwi mai'r gŵr a safodd fechnïaeth (sef rhoi gwarant dros ddilysrwydd y contractor) oedd William Jones, tafarnwr Tafarn y Waterloo, ar dir Tyddyn Drain. Cost y gwaith oedd £34.3.0c, i gynnwys cadw'r gwaith mewn cyflwr da am gyfnod o 7 mlynedd.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwynedd, XPlansB/49