John Roberts, Pontlyfni
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd John Roberts (1832-1904), a adwaenid yn ystod ei flynyddoedd olaf fel "John Roberts, Pontlyfni" oherwydd iddo briodi merch o'r ardal honno. Fe'i ganed yn Nhanforhesgen, Morfa Harlech, 26 Ebrill 1832, yn fab i un o weinidogion y Bedyddwyr Albanaidd yn Harlech a'r cylch. Cafodd ei fedyddio ym 1848 ac yn fuan wedyn fe gychwynnodd bregethu, tra'n dilyn ei alwedigaeth fel saer maen. Symudodd i Flaenau Ffestiniog, a bu'n un o sylfaenwyr achos Rhyd-goch, Tan-y-grisiau, achos y Bedyddwyr Albanaidd. Daeth yn drwm dan ddylanwad traddodiad J.R. Jones, Ramoth.
Ymhen rhai blynyddoedd, cafodd alwad i fod yn weinidog ar gapel ei enwad yn Llanllyfni, ac yno bu nes i'r capel ymuno â Chapel Ebeneser, a John Roberts yn gefnogwr mawr yr uno gan fod achos ei gapel o'n fach ac yn edwino - er iddo bechu yn erbyn sawl un wrth weithredu felly. Yn fuan wedi iddo symud i Lanllyfni, roedd wedi priodi ag Ellen Williams, merch fferm yr Ynys, Pontlyfni, a'i theulu'n aelodau yn Nhŷ'n Lôn. Aeth y cwpl i fyw i Cefnfaeslyn, Llanllyfni. Am gyfnod, ac yntau'n dal i fod â busnes saer maen, gweithredodd hefyd fel gweinidog ar Gapel y Beirdd, yn Eifionydd, gan ddal i fyw yn Llanllyfni. Maes o law symudodd i fyw i gartref ei wraig yn yr Ynys, gan roi'r gorau i weinidogaethu yng Nghapel y Beirdd, ond yn parhau'n weinidog ar gapel Bedyddwyr Llanllyfni. Cymerodd weinidogaeth Capel Saron (B), Llanaelhaearn a Chapel Seilo, Pontllyfni. Aeth ati hefyd i gefnogi achos newydd Capel Ramoth (B), Y Groeslon a chychwyn achos y Bedwyddwyr Neilltuol yng Ngharmel, sef Capel Pisgah, er iddo roi'r gorau i ofalu am y capeli hyn wedi ychydig o flynyddoedd, gan ofalu am Gapel Pontlyfni'n unig erbyn y diwedd ac yntau'n heneiddio.
Bu farw'n 72 oed ym 1904, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Tŷnlôn, Llanllyfni]], sef Mynwent Bara Caws. Erbyn ei farwolaeth, roedd wedi bod yn pregethu am yn agos at 59 o flynyddoedd.[1]
=Cyfeiriadau
- ↑ Mary Griffiths (gol.), Y Diweddar Barchedig John Roberts...Pontllyfni, Arfon (Caernarfon, 1909), tt.15-32