Hugh Beaver Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor. Er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint, cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd tŷ o'r enw Glan-y-Fenai, Llandegfan. Roedd teulu ei fam, Anne Beaver, yn byw yn Glyn Garth.[1] Priododd ym 1848 â Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, pedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.[2] Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Yn ddiweddarach, golygodd ei holl ddiddordebau busnes amrywiol ei fod yn gorfod byw oddi cartref am gyfnodau, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.[3] Bu farw ei wraig Harriet ym 1899.[4] Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.[5] Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.[6]

Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirprwy arglwydd raglaw dros Sir Feirionnydd.[7]

Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[8]

Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial i gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901; J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  2. Cyrfifiad Bangor 1861
  3. Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134.
  5. Cyfrifiad Bangor 1901
  6. Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903
  7. Cyfarwyddiadur Kelly, 1901
  8. Gwefan Heneb, [1], cyrchwyd 7.1.2022