Henry Parry-Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Ysgolfeistr a bardd gwlad oedd Henry Parry-Williams (1858-1925). Hanai o bentref Carmel, yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, ac yn hanner brawd i Robert Parry, tad Robert Williams Parry, ac yn perthyn hefyd i Syr Thomas Parry a Gruffudd Parry. Ei gyfenw gwreiddiol oedd "Parry", ond fe ychwanegwyd yr elfen "Williams" er cof am ei daid Henry Williams - cafodd ei dad y cyfenw "Parry" trwy i'r teulu arddel yr hen ddull patronymig Cymreig o enwi.

Mynychodd Ysgol Bron-y-foel, gan aros yno fel disgybl athro am bum mlynedd cyn cymhwyso'n athro yng Nholeg Normal Bangor. Heblaw am ychydig fisoedd yn Sir Benfro, treuliodd ei holl yrfa fel athro Ysgol Rhyd-ddu, lle bu'n byw yn Nhŷ'r Ysgol. Yr hyn â'i nodweddai oedd ei gred fod angen dysgu llenyddiaeth Gymraeg (hyd yn oed llenyddiaeth Ganoloesol) i blant yn yr ysgol elfennol, fel ffordd o wneud iddynt ymfalchïo yn eu hiaith a'u gwlad. Bu hefyd yn croesawu academyddion o'r Cyfandir, a oedd am ddysgu'r Gymraeg, fel lletywyr yn ei gartref.

Roedd yn fardd cynhyrchiol, yn ymateb i geisiadau gan bobl leol ac yn ysgrifennu telynegion. Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ym Mae Colwyn ym 1910, a hynny am gasgliad o delynegion.

Ei briod oedd Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, ac roedd ganddynt bedwar mab a dwy ferch, yn cynnwys Syr T. H. Parry-Williams.

Cyfeiriad

Thomas Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997), t.248.