Clas ac Abaty Sant Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.

Sefydliad a ddaeth i fodolaeth oherwydd gweithgaredd Sant Beuno oedd Clas ac Abaty Sant Beuno.

Roedd Beuno yn un o saint cynnar amlycaf Cymru, gyda nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn nwyrain Cymru yn ogystal ag yn y gogledd-orllewin. Ym Muchedd Beuno Sant (hanes ei fywyd) adroddir fel y bu i Feuno a'i ddilynwyr deithio o ddwyrain Cymru, lle roedd eisoes wedi sefydlu nifer o eglwysi, i Glynnog Fawr. Mae eglwys Beuno ym Mhenmorfa yn awgrymu iddo ef a'i ddilynwyr groesi'r Traeth Mawr, gan ddilyn yr hen ffordd Rufeinig drwy'r Bwlch Mawr (rhwng mynyddoedd y Bwlch Mawr a Chraig Goch) o Eifionydd i Arfon ac ymsefydlu yng Nghlynnog, lle roedd y tir yn ddigon gwlyb a chorsiog bryd hynny. Yno sefydlodd nid yn unig eglwys ond hefyd abaty neu glas. Yn syml, clas oedd yr enw yn yr eglwys Gristnogol gynnar yng Nghymru ar nifer o fynaich yn dod ynghyd i sefydlu cymuned Gristnogol dan arweiniad abad. Yno y treuliodd Beuno weddill ei ddyddiau yn ôl y sôn ac mae safle ei fedd i'w weld o hyd o fewn Capel Beuno yn yr eglwys - gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.

Parhaodd y clas neu'r abaty yng Nghlynnog i ffynnu a gweithredu am ganrifoedd lawer. Roedd yr eglwys a'r adeiladau cysylltiedig wedi eu hadeiladu o goed yn wreiddiol ac fe'u difrodwyd sawl gwaith yn sicr gan ryfeloedd a thywydd garw. Fel llawer o eglwysi ac abatai eraill o amgylch arfordir Cymru, ymosododd y Llychlynwyr ar eglwys Beuno gan achosi difrod mawr, ac yn Brut y Tywysogion cofnodir bod gwlad Llŷn a Chlynnog Fawr wedi cael eu hanrheithio yn y flwyddyn 978 gan arweinydd Cymreig o'r enw Hywel ap Ieuaf a llu o Sacsoniaid. (Pam roedd arglwydd Cymreig wedi ymuno bryd hynny â gelynion traddodiadol ei gydwladwyr sy'n fater arall.) Fodd bynnag, gan mai adeiladau o goed oeddent yn y canrifoedd cynnar, roedd yn gymharol rwydd ailadeiladu ac er gwaetha'r anawsterau parhaodd y gymuned fynachaidd yng Nghlynnog i ffynnu. Roedd y mynaich yn trin y tir o amgylch y clas, a hefyd roeddent yn bysgotwyr medrus, fel mae Gored Beuno (sef trap i ddal pysgod) yn tystio. Mae hwn wedi ei nodi o hyd ar fap manwl yr Arolwg Ordnans ar y traeth rhyw hanner ffordd rhwng Clynnog ac Aberdesach.

Wrth i'r cymunedau crefyddol hyn yng Nghymru gael eu diwygio a'u gosod ar seiliau cadarnach (gyda'r adeiladau mewn rhai achosion yn cael eu hailadeiladu o gerrig yn hytrach na choed), daeth yn arferiad i'r arglwyddi a'r tywysogion Cymreig roi tiroedd iddynt. Nodir yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Abaty Aberconwy fel y derbyniodd y sefydliad hwnnw diroedd yn Nancall yn Uwchgwyrfai a Ffriwlwyd yn Eifionydd trwy siarter yn 1201 gan Lywelyn Fawr. Er ei fod yn sefydliad llawer llai nag Aberconwy, derbyniodd abaty, neu glas, Clynnog Fawr rai tiroedd hefyd. Derbyniodd clas Clynnog dir yng nghrefgordd Llecheiddior yn Eifionydd, a cheir manylion am y rhodd hwnnw mewn siarter o'r 15ed ganrif a roddwyd gan frenin Lloegr ar y pryd, Edward IV.[1] Fodd bynnag, roedd y clas wedi derbyn y tir hwn ganrifoedd yn gynt na hynny - o bosib gan Hywel ap Cadell (sef y tywysog Hywel Dda (bu farw 949) a roddodd, yn ôl traddodiad, drefn ar y Cyfreithiau Cymreig). Mae'n debygol i'r tiroedd rhydd hyn yn Llecheiddior (sef tiroedd a oedd yn cael eu dal a'u trin gan ddeiliaid rhydd yn hytrach na thaeogion caeth) gael eu gwerthu yn ail hanner y 15ed ganrif, sef yn weddol fuan ar ôl derbyn y siarter dan law Edward IV. Yn sicr roeddent wedi mynd o ddwylo'r clas erbyn 1535 pan luniwyd y Valor Ecclesiasticus, sef yr arolwg a wnaed o werth yr holl fynachdai, abatai a lleiandai yng Nghymru a Lloegr gan y Goron cyn i'r holl sefydliadau hynny gael eu diddymu rhwng oddeutu 1535-1540.[2]

Yn ogystal â bod yn berchen ar dir yn Llecheiddior, roedd clas Clynnog Fawr hefyd yn berchen ar holl drefgordd gyffiniol Derwin, sydd o fewn plwyf Clynnog, ac ar y ffin rhyngddo â phlwyf Llanfihangel y Pennant. Enwir Derwin fel eiddo i glas Clynnog mewn siarter a luniwyd yn y 15ed ganrif gan Geoffrey Trefnant, profost (neu abad) Clynnog ac ymddengys iddo gael ei werthu'n fuan wedyn gyda gweddill tiroedd Clynnog. Fel yn achos y tir yn Llecheiddior, nid oes gyfeiriad ato yn y Valor Ecclesiasticus. [3] Felly, erbyn cyfnod diddymu'r mynachlogydd rhwng 1535-1540 roedd y clas neu'r abaty yng Nghynnog wedi crebachu i fod yn sefydliad bychan iawn mae'n fwy na thebyg, gyda'r tiroedd a oedd yn ei feddiant gynt am ganrifoedd wedi eu gwerthu rai blynyddoedd cyn i'r sefydliad ddod i ben yn derfynol gyda'r eglwys yn dod yn eglwys blwyf yn unig dan y drefn Brotestannaidd newydd.


Cyfeiriadau

  1. Colin A. Gresham, Eifionydd, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1973), t.201.
  2. Gresham, ibid., t.204.
  3. Gresham, ibid., t.306.